Ydy’ch sefyllfa ariannol chi wedi gwaethygu dros yr Ŵyl?
Os felly, beth am ddod i wybod mwy am ddelio â’ch arian mewn ffordd fwy personol yn Undeb Credyd Cambrian (sy’n masnachu fel Cambrian Savings and Loans)? Gallent eich helpu â chynilon rheolaidd a chynnig benthyciadau fforddiadwy i chi.
Ar ben hynny, maent yn cael eu rhedeg gan ac ar gyfer eu haelodau’n llwyr, sy’n golygu eich bod yn cael lleisio barn ar faterion drwy bleidleisio yn eu cyfarfod cyffredinol blynyddol. Er eu bod yn debyg i fanc ac yn cael eu rheoleiddio’n ariannol gan yr un bobl â banciau, mae eu hethos yn wahanol iawn – mae nhw’n malio amdanoch chi ac yn canolbwyntio ar greu gwerth go iawn ar gyfer yr aelodau – yn wahanol i sefydliadau ariannol eraill sy’n canolbwyntio ar wneud elw.
Nid ydyn nhw’n codi llog os yw benthyciad yn cael ei dalu’n ei ôl yn fuan ac mae’r penderfyniadau ar fenthyciadau’n cael eu gwneud gan y staff, sy’n dod i’ch adnabod ac yn ystyried eich sefyllfa ariannol bersonol chi yn hytrach na dibynnu ar benderfyniad cyfrifiadurol.
Felly, os ydych chi’n awyddus i reoli’ch arian yn well yn 2018, galwch heibio i weld y staff yn yr Undeb Credyd yn 51 Stryt y Brenin, LL11 1LA, neu ffoniwch 03332 000601 neu gymryd cip ar eu gwefan www.cambriancu.com/cy.
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT