Bydd cerflun efydd o Afr Gatrodol ac Uwchgapten Gafr y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a gardd goffa sydd wedi’u cynllunio ers 2017 yn cael eu dadorchuddio mewn seremoni gyhoeddus y tu allan i Farics Hightown ddydd Sadwrn 18 Mawrth rhwng hanner dydd a 12.15pm.
Mae’r cerflun yn gerflun efydd maint llawn o filwr y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig gyda’r Afr Gatrodol eiconig wrth ei ochr. Mae wedi’i amgylchynu gan ardd goffa gyda saith bwa sy’n cynnwys placiau llechen wedi’u hysgrythu ag Arwyddlun y Gatrawd a Bathodynnau Cwmnïau’r Gatrawd.
Caiff y gofeb ei goleuo bob nos pan fydd wedi’i gosod.
Cafodd y cerflun ei greu gan y cerflunydd Nick Elphick sy’n seiliedig yn Llandudno ac a fydd yn bresennol yn y seremoni.
Bydd y digwyddiad yn dechrau am 11.45am gyda’r Corfflu Drymiau yn gorymdeithio o Ganolfan Adnoddau Hightown ar hyd yr A525 i Farics Hightown. Gyda’r band, bydd yr Uwchgapten Gafr a’r Afr Gatrodol, Shenkin, o’r 3ydd Bataliwn, Y Cymry Brenhinol. Caiff ffanfer gan wyth o aelodau band y Cymry Brenhinol ei chanu hefyd.
Bydd cerddoriaeth a chanu gan Gôr Meibion Froncysytlle a fydd yn dod â’u sesiwn i ben gyda Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech.
Bydd disgyblion o Ysgol Bodhyfryd yno i roi datganiad a chanu, bydd Cadeirydd Cyngor Cymuned Offa, y Cynghorydd Linda Subacchi, yn adrodd Hedd Wyn, y bardd rhyfel a ymunodd â’r 15fed Bataliwn, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Yn dilyn areithiau, bydd y cerflun ei hun yn cael ei ddadorchuddio tua 12.15pm. Bydd y ffordd ar gau rhwng hen dafarn y Travellers Rest a Barics Hightown rhwng 11am a 2pm.
Mae’r Cynghorydd Graham Rogers, Aelod Lleol, a Chyngor Cymuned Offa wedi bod yn codi arian i godi’r cerflun hwn, a dywedodd “Rwyf mor falch o weld y prosiect hwn yn dwyn ffrwyth. Mae’n deyrnged addas i’r Barics, y milwyr a fu’n gwisgo gwisg y gatrawd ag anrhydedd, eu teuluoedd, ac i gofio am y rhai a gollwyd trwy’r gwrthdaro niferus y bu’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn rhan ohonynt.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio gyda mi ar hyn ac i bawb sydd wedi cyfrannu’n hael i wireddu’r prosiect. Da iawn bawb.” Dywedodd Clerc Cyngor Cymuned Offa, Karen Benfield, “Ar ran Cyngor Cymuned Offa, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu ac sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect hwn.
Bydd yn dirnod hyfryd ar un o’r prif lwybrau i mewn i’n Dinas, yn enwedig gyda’r nos pan fydd wedi’i oleuo. “Mae’n rhaid diolch yn arbennig i’r Cynghorydd Graham Rogers sydd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod y prosiect yn cael ei gwblhau, a hefyd i Nick Elphick y cerflunydd.
“Mae wedi cymryd diddordeb arbennig yn y comisiwn hwn gan weithio ochr yn ochr â’r Gatrawd a Chymrodorion i sicrhau bod pob manylyn bach o’r wisg a harnais yr afr yn gywir.
“Rwyf wedi gweld y cerflun yn y ffowndri ac mae wedi gwneud gwaith arbennig iawn. Rwy’n siŵr y bydd pawb wrth eu boddau pan gaiff ei ddadorchuddio o’r diwedd.”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, “Mae’n gerflun trawiadol, ar un o’r prif lwybrau i mewn i’r ddinas, a bydd y gymuned leol ac ymwelwyr â’r ardal yn ei werthfawrogi.
“Dywedodd Cefnogwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Beverley Parry Jones, “Bydd yn atgof parhaol o hanes y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yma yn Wrecsam a’r rôl maen nhw wedi’i chwarae mewn gwrthdaro ar draws y byd, lle collodd nifer eu bywydau.”
Dywedodd yr Uwchfrigadydd Chris Barry, Cyrnol Catrawd y Cymry Brenhinol, “Mae’n anrhydedd mawr i’r Gatrawd bod un o’u Catrodau blaenorol wedi’i hanrhydeddu fel hyn.
Mae’r Gatrawd yn hynod o falch o’i harferion, ei thraddodiadau a’i hanes. “Mae’r cerflun anhygoel hwn yn dangos hanfod yr hyn mae’n ei olygu i fod yn rhan o deulu’r Cymry Brenhinol. Mae Cwmni, y 3ydd Bataliwn, Y Cymry Brenhinol, wedi’i ailsefydlu’n ddiweddar ym Marics Hightown ac mae’r cerflun hwn yn coffáu llinach hir y Gatrawd yma yn Wrecsam, o agor Barics Hightown ym 1877 i wasanaeth parhaus Y Cymry Brenhinol yn y barics heddiw.
Rydym yn gwerthfawrogi’r berthynas arbennig rhwng pobl Wrecsam a’r Gatrawd.”