Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cerflun a Gardd Goffa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig i gael eu dadorchuddio ar 18 Mawrth
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cerflun a Gardd Goffa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig i gael eu dadorchuddio ar 18 Mawrth
ArallPobl a lleArall

Cerflun a Gardd Goffa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig i gael eu dadorchuddio ar 18 Mawrth

Diweddarwyd diwethaf: Mai 26, 2023 2:21 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
RHANNU

Bydd cerflun efydd o Afr Gatrodol ac Uwchgapten Gafr y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a gardd goffa sydd wedi’u cynllunio ers 2017 yn cael eu dadorchuddio mewn seremoni gyhoeddus y tu allan i Farics Hightown ddydd Sadwrn 18 Mawrth rhwng hanner dydd a 12.15pm.

Mae’r cerflun yn gerflun efydd maint llawn o filwr y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig gyda’r Afr Gatrodol eiconig wrth ei ochr. Mae wedi’i amgylchynu gan ardd goffa gyda saith bwa sy’n cynnwys placiau llechen wedi’u hysgrythu ag Arwyddlun y Gatrawd a Bathodynnau Cwmnïau’r Gatrawd. Caiff y gofeb ei goleuo bob nos pan fydd wedi’i gosod.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Cafodd y cerflun ei greu gan y cerflunydd Nick Elphick sy’n seiliedig yn Llandudno ac a fydd yn bresennol yn y seremoni.

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 11.45am gyda’r Corfflu Drymiau yn gorymdeithio o Ganolfan Adnoddau Hightown ar hyd yr A525 i Farics Hightown. Gyda’r band, bydd yr Uwchgapten Gafr a’r Afr Gatrodol, Shenkin, o’r 3ydd Bataliwn, Y Cymry Brenhinol. Caiff ffanfer gan wyth o aelodau band y Cymry Brenhinol ei chanu hefyd.

Bydd cerddoriaeth a chanu gan Gôr Meibion Froncysytlle a fydd yn dod â’u sesiwn i ben gyda Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech. Bydd disgyblion o Ysgol Bodhyfryd yno i roi datganiad a chanu, bydd Cadeirydd Cyngor Cymuned Offa, y Cynghorydd Linda Subacchi, yn adrodd Hedd Wyn, y bardd rhyfel a ymunodd â’r 15fed Bataliwn, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn dilyn areithiau, bydd y cerflun ei hun yn cael ei ddadorchuddio tua 12.15pm.

Bydd y ffordd ar gau rhwng hen dafarn y Travellers Rest a Barics Hightown rhwng 11am a 2pm.

Mae’r Cynghorydd Graham Rogers, Aelod Lleol, a Chyngor Cymuned Offa wedi bod yn codi arian i godi’r cerflun hwn, a dywedodd “Rwyf mor falch o weld y prosiect hwn yn dwyn ffrwyth. Mae’n deyrnged addas i’r Barics, y milwyr a fu’n gwisgo gwisg y gatrawd ag anrhydedd, eu teuluoedd, ac i gofio am y rhai a gollwyd trwy’r gwrthdaro niferus y bu’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn rhan ohonynt.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio gyda mi ar hyn ac i bawb sydd wedi cyfrannu’n hael i wireddu’r prosiect. Da iawn bawb.”

Dywedodd Clerc Cyngor Cymuned Offa, Karen Benfield, “Ar ran Cyngor Cymuned Offa, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu ac sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect hwn. Bydd yn dirnod hyfryd ar un o’r prif lwybrau i mewn i’n Dinas, yn enwedig gyda’r nos pan fydd wedi’i oleuo.

“Mae’n rhaid diolch yn arbennig i’r Cynghorydd Graham Rogers sydd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod y prosiect yn cael ei gwblhau, a hefyd i Nick Elphick y cerflunydd. Mae wedi cymryd diddordeb arbennig yn y comisiwn hwn gan weithio ochr yn ochr â’r Gatrawd a Chymrodorion i sicrhau bod pob manylyn bach o’r wisg a harnais yr afr yn gywir. Rwyf wedi gweld y cerflun yn y ffowndri ac mae wedi gwneud gwaith arbennig iawn. Rwy’n siŵr y bydd pawb wrth eu boddau pan gaiff ei ddadorchuddio o’r diwedd.”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, “Mae’n gerflun trawiadol, ar un o’r prif lwybrau i mewn i’r ddinas, a bydd y gymuned leol ac ymwelwyr â’r ardal yn ei werthfawrogi.

Dywedodd Cefnogwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Beverley Parry Jones, “Bydd yn atgof parhaol o hanes y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yma yn Wrecsam a’r rôl maen nhw wedi’i chwarae mewn gwrthdaro ar draws y byd, lle collodd nifer eu bywydau.”

Dywedodd yr Uwchfrigadydd Chris Barry, Cyrnol Catrawd y Cymry Brenhinol, “Mae’n anrhydedd mawr i’r Gatrawd bod un o’u Catrodau blaenorol wedi’i hanrhydeddu fel hyn. Mae’r Gatrawd yn hynod o falch o’i harferion, ei thraddodiadau a’i hanes.

“Mae’r cerflun anhygoel hwn yn dangos hanfod yr hyn mae’n ei olygu i fod yn rhan o deulu’r Cymry Brenhinol. Mae Cwmni, y 3ydd Bataliwn, Y Cymry Brenhinol, wedi’i ailsefydlu’n ddiweddar ym Marics Hightown ac mae’r cerflun hwn yn coffáu llinach hir y Gatrawd yma yn Wrecsam, o agor Barics Hightown ym 1877 i wasanaeth parhaus Y Cymry Brenhinol yn y barics heddiw. Rydym yn gwerthfawrogi’r berthynas arbennig rhwng pobl Wrecsam a’r Gatrawd.”

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Universal free school meals Cyflwyno prydau ysgol am ddim i flynyddoedd 1 a 2
Erthygl nesaf The Royal Welch Fusiliers sculpture in Wrexham Cerflun a gardd goffa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig i gael eu dadorchuddio ar 18 Mawrth

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English