Bob dydd drwy gydol mis Mawrth byddwn yn postio ffaith am ailgylchu ar ein tudalennau Facebook a Twitter
Rhag ofn eich bod wedi methu unrhyw rai ohonyn nhw, dyma grynodeb byr o’r deg cyntaf…
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Ffaith 1: Gallwch fynd â chartonau i fanciau yn nhair Canolfan Ailgylchu Wrecsam, ond ni ellir eu derbyn yn eich bocsys gwyrdd neu focsys ar olwynion ar hyn o bryd.
Ffaith 2: Oeddech chi’n gwybod y gallwch ailgylchu eich bagiau te a’ch gronynnau coffi yn eich bocs gwastraff bwyd?
Ffaith 3: Mae golchi eich potiau, tybiau, três a photeli plastig cyn iddynt gael eu casglu yn golygu fod deunydd ailgylchu o ansawdd llawer uwch yn cael ei anfon i’w ailgylchu i greu cynhyrchion newydd.
Ffaith 4: Gellir ailgylchu esgidiau rhedeg (neu unrhyw esgidiau) mewn mannau ailgylchu lleol.
Ffeithiau am ailgylchu: Gellir ailgylchu esgidiau rhedeg (neu unrhyw esgidiau) mewn mannau ailgylchu lleol. pic.twitter.com/xpxojVS9TV
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) March 4, 2019
Ffaith 5: Cofiwch olchi unrhyw ddeunydd ailgylchu er mwyn osgoi halogi deunydd ailgylchu glân a gasglwyd yn barod gan y cerbyd ailgylchu.
Ffaith 6: Mae’r rhan fwyaf ohonom yn Wrecsam yn golchi a chywasgu ein tuniau, caniau a photeli plastig yn barod ar gyfer eu casglu.
Ffaith 7: Nid yw bagiau plastig bara, cling ffilm a phlastig swigod yn dderbyniol yn y bocs gwyrdd / bocs ar olwynion canol.
Ffaith 8: Y llynedd fe ailgylchodd pobl yn Wrecsam 4,000 tunnell o wydr cymysg.
Ffeithiau am ailgylchu: Y llynedd fe ailgylchodd pobl yn Wrecsam 4,000 tunnell o wydr cymysg. pic.twitter.com/9B22O6fnXL
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) March 8, 2019
Ffaith 9: Cofiwch dynnu unrhyw becynnau plastig, plastig swigod a pholystyren oddi ar focsys cardbord cyn eu rhoi yn y sach las / bocs ar olwynion uchaf.
Ffaith 10: Bagiau sy’n compostio yn mynd yn brin? Clymwch un o amgylch dolen y cadi ar ddiwrnod casglu a bydd rholyn newydd yn cael ei adael i chi.
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU