Bydd Bwrdd Gweithredol cyntaf 2020 yn cael ei gynnal ddydd Mawrth (14.01.2020) a dyma drosolwg o beth fydd ar y Rhaglen.
I gychwyn gofynnir i aelodau gefnogi gweledigaeth newydd ar gyfer Wrecsam a luniwyd gan y Grŵp Arweinyddiaeth Dinesig. Grŵp o arweinwyr o amrywiaeth o sefydliadau a busnesau yn Wrecsam sydd wedi eu huno yn eu dyhead i gefnogi Wrecsam gyflawni ei botensial llawn.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Mae’r weledigaeth “Pwrpas Cyffredin Wrecsam – canol tref ffyniannus yn barod am fuddsoddiad pellach” yn anelu i gyd-fynd â chynlluniau sy’n bodoli a dod a buddsoddiad gan gynulleidfa eang.
Nesaf byddant yn edrych ar adroddiad perfformiad Cynllun y Cyngor ar gyfer Chwarter 2 2019/20 a bydd hyn yn gyfle iddynt herio unrhyw feysydd sydd ganddynt sy’n achosi pryder.
Mae eitemau eraill yn cynnwys cymeradwyo penodi dau brif swyddog i gymryd lle’r Prif Swyddog Addysg ac Ymyrraeth Gynnar sy’n dod yn wag yn Awst a Phrif Swyddog Gofal Cymdeithasol a fydd yn wag ym Mawrth.
Hefyd bydd Strategaeth Ranbarthol i Ofalwyr yn cael ei thrafod ynghyd â Pholisi Amddiffyn Oedolion Wrecsam.
“Eisiau gwybod mwy am y Bwrdd Gweithredol hwn?”
Gallwch edrych ar yr adroddiadau yma a bydd y cyfarfod yn cael ei ddarlledu yn fyw o’n gwefan ac mae’r ddolen yma.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN