Ar ôl 15 mlynedd o aros… yn dechrau am 6.15pm, ar Fai 2il, bydd gorymdaith fuddugoliaeth yn gadael maes parcio’r Cae Ras am daith o amgylch Wrecsam.
Mae’r daith i ddathlu yn llwyddiant tîm y dynion a’r merched. Sicrhaodd tîm y dynion ddyrchafiad gyda buddugoliaeth dros Boreham Wood ddydd Sadwrn 22 Ebrill, a sicrhaodd y tîm merched ddyrchafiad i’r Adran Premier yn gynharach yn y mis.
Mae torfeydd yn cael eu hannog i ledaenu eu hunain allan ar hyd llwybr yr orymdaith er mwyn sicrhau golwg dda ar y bysus a’r chwaraewyr.
Isod ceir disgrifiad o’r llwybr a gymerwyd i helpu gyda’ch penderfyniadau o ble rydych chi am sefyll:
1 Mae’r orymdaith yn dechrau yn y Cae Ras – yn gadael yn syth am 6.15yp
2 Troi i’r chwith ar Lôn Crispin (lle mae murlun ‘Welcome to Wrexham’ wedi’i lleoli)
3 Trowch i’r chwith ar B5101 Ffordd Stansty (tuag at Ysgol Plas Coch)
4 Trowch i’r chwith ar B5101 Ffordd Plas Coch (Tuag at Gylchfan B&Q)
5 Trowch I’r chwith ar y cylchfan A541 tuag at Ffordd yr Wyddgrug (Mynd heibio’r cae ras)
6 Syth ‘mlaen i A541 Ffordd y Rhaglaw (Heibio’r orsaf trên ar swyddfa’r post)
7 Yn troi i’r chwith A5152 Ffordd Grosfenor (Yn arwain at Gylchfan Rhosddu)
8 Syth ‘mlaen i A5152 Ffordd Gyswllt (Tuag at hen Ysgol Groves)
9 Trowch i’r dde ar Stryt Gaer (Heibio’r gofeb rhyfel tuag at Saith Seren)
10 Trowch i’r chwith ar Stryt Holt (Yn cadw’r Fusilier ar y chwith)
11 Trowch i’r dde ar Stryt y Farchnad ( O flaen mynediad Tŷ Pawb ochr Stryt y Farchnad)
12 Ymlaen i Gilgant Sant Siôr (Heibio KFC ar y chwith a Chwrw Wrecsam ar y dde)
13 Troi i’r dde tuag at Ddôl yr Eryrod (Dilyn o gwmpas Dôl yr Eryrod ffordd y cloc)
14 Troi i’r chwith ar Ffordd Sir Amwythig (Ffordd tuag at Hightown)
15 Trowch i’r dde ar Stryt Y Marchog (tuag at Nags Head)
16 Trowch i’r dde ar gylchfan Stryt Efrog (Tuag at Fat Boar/Stryt Fawr)
17 Trowch i’r dde ar Stryt Fawr (Tuag at y Wynnstay)
18 Trowch i’r dde at Stryt Yr Hob (prif ardal siopa)
19 Trowch i’r chwith tuag ag Stryt y Rhaglaw (ardal bedestraidd cyn mynd yn ôl at y Cae Ras/ diwedd yr orymdaith
Dywedodd yr aelod arweiniol dros yr economi ac adfywio’r Cynghorydd Nigel Williams:
“Rwy’n siŵr y bydd pobl allan mewn niferoedd mawr i ddangos eu cefnogaeth i’r ddau dîm pencampwr llwyddiannus yn Wrecsam, mi fydd yn achlysur arbennig o bwys i Wrecsam. Byddwn yn annog pawb sy’n mynychu i ledaenu eu hunain allan ar hyd y llwybr cyfan i gael golwg dda ar yr orymdaith.”