Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen ‘Llwyddo, Nid Lluchio’ ar gyfer #WythnosGweithreduArWastraffBwyd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > ‘Llwyddo, Nid Lluchio’ ar gyfer #WythnosGweithreduArWastraffBwyd
Pobl a lle

‘Llwyddo, Nid Lluchio’ ar gyfer #WythnosGweithreduArWastraffBwyd

Diweddarwyd diwethaf: Mai 26, 2023 2:49 pm
Rhannu
Darllen 7 funud
Food waste action week
RHANNU

Cynhelir #WythnosGweithreduArWastraffBwyd gan Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff rhwng 6-12 Mawrth, a’r thema eleni yw ‘Llwyddo, Nid Lluchio.’

Cynnwys
  • Cwblhau’r cwis!
  • 10 awgrym defnyddiol!

Mae’n wythnos o weithredu mewn ymgais i ddod â’r genedl ynghyd i arbed amser ac arian trwy wneud i’r bwyd sydd gennym eisoes fynd ymhellach. Byddwn yn helpu i daflu goleuni ar sut gall storio bwyd yn gywir sicrhau ail (neu drydydd!) pryd o fwyd am ddim.

Meddai’r Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rydym yn cefnogi’r ymgyrch Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd gan Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff. Os nad yw’r bwyd a brynwn yn cael ei ddefnyddio, caiff yr holl egni a dŵr a ddefnyddiwyd i’w dyfu, ei gynaeafu, ei gludo a’i becynnu ei wastraffu. Byddwn yn rhannu gwybodaeth ynglŷn â sut gallwch leihau eich gwastraff bwyd trwy gydol yr wythnos, a all eich helpu i arbed arian a gwarchod yr amgylchedd.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Trwy gydol yr wythnos, byddwn yn rhannu cynnwys hwyliog ac addysgiadol ar ein sianelau cymdeithasol, felly cadwch lygad amdanynt.

Facebook               Twitter               Instagram

Cwblhau’r cwis!

Cymerwch ran yn y cwis ‘Llwyddo, Nid Lluchio’ gan Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff, am gyfle i ennill microdon Panasonic neu un o hanner cant o Fasgedi Bwyd Hellmann’s.

Trwy ateb pedwar cwestiwn amlddewis, byddwch yn cael cyngor ysgogol a all eich helpu i wneud i’ch bwyd fynd ymhellach.

Yn ogystal, os byddwch yn cofrestru am eu newyddlen, gallwch gael awgrymiadau sydd wedi’u dylunio i arbed arian ac amser i chi a byddwch yn cael eich cynnwys yn y raffl.

Cwblhewch y cwis nawr: LoveFoodHateWaste.com/fwaw

10 awgrym defnyddiol!

Ar gyfer Wythnos Gweithredu ar Wastraffu Bwyd mae Love Food Hate Waste wedi llunio rhestr o 10 peth y gallwch chi ei wneud i atal gwastraff bwyd rhag bwydo newid hinsawdd:

1. Dyddiadau difyr! Mae’r dyddiad defnyddio neu’r ‘use by date’ yn ymwneud â diogelwch – ddylech chi ddim bwyta’r bwyd ar ôl y dyddiad yma (hyd yn oed os ydi o’n edrych neu’n arogli’n iawn). Mae’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ neu ‘best before’ yn ymwneud ag ansawdd – er na fydd y bwyd ar ei orau, mi fydd yn dal yn ddiogel i chi ei fwyta am beth amser i ddod.

2. Defnyddio pob tamaid. Ydych chi’n taflu crystiau a choesau brocoli i’r bin? Mae dros ddwy ran o dair o’r bwydydd rydym ni’n eu gwastraffu yn hollol fwytadwy, felly mae defnyddio pob rhan fwytadwy o’ch bwyd yn hanfodol. Beth am beidio â phlicio’r tatws pan fyddwch chi’n gwneud tatws stwnsh – mi fyddwch chi’n arbed amser hefyd!

3. Oerwch yr oergell. Mae cyfartaledd tymheredd oergelloedd y Deyrnas Unedig bron yn 7°C, ond mae bwydydd yn para’n hirach os ydych chi’n eu cadw nhw dan 5°C.

4. Prydau perffaith. Dwylo i fyny pwy sy’n gwneud gormod o reis neu basta? Mae’n hawdd iawn gwneud, ond mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i wneud yn siŵr nad ydych chi’n coginio gormod. Er enghraifft, mae mwg o reis sych yn ddigon i bedwar oedolyn.

5. Silff-lun. Os nad ydych chi’n rhy hoff o ‘sgwennu rhestrau siopa beth am dynnu llun o’ch oergell/silffoedd bwyd yn lle? Bydd hyn yn eich stopio chi rhag prynu pethau sydd gennych chi’n barod.

6. Synnwyr cyffredin. Bydd y rhan fwyaf o ffrwythau a llysiau yn para’n hirach yn yr oergell. Yr eithriadau allweddol ydi bananas a phinafal (cadwch y rhain ar y cownter), a nionod a thatws (cadwch y rhain mewn lle oer, tywyll a sych – fel cwpwrdd)!

7. Rhewi cyn y dyddiad defnyddio. Fe allwch chi rewi unrhyw fwyd gyda dyddiad defnyddio, gan gynnwys cig, hyd at y dyddiad hwnnw. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn os ydi’ch cynlluniau’n newid ar fyr rybudd – cyn i chi archebu tecawê ar frys cofiwch edrych yn yr oergell am unrhyw beth y medrwch chi ei rewi ar gyfer diwrnod arall.

8. Yr hambwrdd ciwbiau rhew – arwr y rhewgell. Gormod o lefrith, dim digon o amser? Tywalltwch y llefrith sydd gennych chi dros ben i mewn i’ch hambwrdd ciwbiau rhew a’i roi yn y rhewgell. Fe allwch chi ddefnyddio hambwrdd ciwbiau rhew i rewi perlysiau ffres hefyd. Torrwch nhw a rhowch nhw yn yr hambwrdd, gan ychwanegu ychydig o olew – bydd gennych chi wedyn ddognau hawdd i’w hychwanegu i’r badell pan fyddwch chi’n coginio nesaf.

9. Bara blasus. Mae bara yn rhewi’n dda. Rhowch eich torth dafellog yn y rhewgell a phan fydd arnoch chi angen bara fe allwch chi estyn tafell a’i thostio’n sydd o’r rhewgell. Awgrym bach arall: tapiwch eich torth ar y cownter cyn i chi ei rhewi fel nad ydi’r tafellau yn glynu at ei gilydd.

10. Gwrthrychau Rhewedig Anhysbys. Cyn i chi roi bwyd dros ben yn y rhewgell cofiwch labelu’r bag/cynhwysydd fel eich bod chi’n gwybod beth sydd ynddo a phryd y rhoddoch chi o yn y rhewgell.

Mae gwefan Love Food Hate Waste yn llawn ryseitiau blasus a hyd yn oed mwy o awgrymiadau ar gyfer manteisio i’r eithaf ar eich bwyd.

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Andrew Ogun - Focus Wales Mwy o berfformwyr wedi’u cyhoeddi ar gyfer FOCUS Wales 2023!
Erthygl nesaf Sterling currency Dros 100 yn ymgeisio am y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English