Â’r plant bellach yn ôl yn yr ysgol, a bywyd yn dychwelyd i’w batrwm arferol, hoffem i chi gymryd 5 munud i lenwi eich ffurflen gofrestru etholiadol a anfonwyd atoch mis diwethaf.
Rydym yn gofyn i chi wneud hyn er mwyn sicrhau bod manylion pob cyfeiriad yn gywir a’ch bod wedi cofrestru i bleidleisio pan gaiff yr etholiad nesaf ei gynnal.
Mae’n bwysig eich bod wedi cofrestru i bleidleisio – mae’n golygu y bydd gennych lais os caiff etholiad ei gynnal.
Os nad ydych wedi cofrestru, ni fydd eich enw ar y ffurflen. Os ydych yn dymuno cofrestru, y ffordd hawsaf i wneud hynny yw ar-lein yma. Dylech ddefnyddio’r cyfrineiriau a anfonwyd atoch gyda’ch ffurflen.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Os ydych wedi newid cyfeiriad yn ddiweddar mae gofyn ichi gadw golwg am y ffurflen a gwrio eich manylion. Dengys ymchwil diweddar fod pobl sy’n newid cyfeiriad yn llawer llai tebygol o fod wedi eu cofrestru na’r rhai hynny sydd wedi byw yn yr un cyfeiriad ers amser hir.
Ar draws Prydain, bydd 94% o unigolion sydd wedi bod yn byw yn eu heiddo ers dros 16 mlynedd wedi eu cofrestru, o’i gymharu â 40% o unigolion sydd wedi byw mewn cyfeiriad ers llai na blwyddyn.
Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru: “mae’n wirioneddol bwysig fod pawb sydd â’r hawl i bleidleisio yn gallu gwneud hynny. Un o’r ffyrdd hawsaf i ddarganfod a ydych wedi eich cofrestru’n barod yw trwy wirio’r ffurflen a fydd yn cyrraedd drwy’r post. Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol am gofrestru i bleidleisio ar ein gwefan, sydd i’w weld yma.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION