Os ydych chi’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, neu’n meddwl gwneud, mae nifer o gyfleoedd i ddatblygu eich gyrfa yng Nghyngor Wrecsam.
O weithwyr cymdeithasol i ymgynghorwyr cyswllt, a swyddi sy’n ymwneud â gweithio gyda phlant a phobl ag anghenion – mae yna nifer o swyddi gwerth chweil ar gael ar hyn o bryd.
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant: “Mae gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn golygu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, ac rydym yn dymuno recriwtio unigolion caredig, talentog a chlyfar i weithio mewn amrywiaeth o rolau.
“Os ydych chi’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, byddwch yn ymwybodol y gall fod yn heriol – rydych yn gweld ac yn delio â materion sydd ddim bob amser yn hawdd. Ond, byddwch yn ymwybodol hefyd y gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac mae gweithio yn y maes yn rhoi llawer o foddhad.”
Gallwch weld yr holl swyddi gwag ar borth swyddi’r Cyngor…
GWELD SWYDDI
Mae swyddi gwag presennol ym maes gofal cymdeithasol yn cynnwys:
- Gweithwyr cymdeithasol
- Rheolwyr tîm cynorthwyol i weithio ym meysydd maethu, cefnogi teuluoedd ac asesu ac ymyrryd
- Gweithwyr cefnogi aillalluogi gofal yn y cartref
- Ymgynghorwyr cyswllt cyntaf
- Gweithwyr cymorth nos
- Swyddogion gofal preswyl i blant
Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae Wrecsam yn lle sy’n rhoi pobl yn gyntaf, ac fel dinas ddiweddaraf Cymru, dyma gyfle cyffrous i ymuno â’n hadran gofal cymdeithasol.
“Mae llawer o blant a theuluoedd yn dibynnu ar ein gwasanaethau, a thrwy weithio yn un o’n timau, gallwch ddarparu’r achubiaeth sydd ei hangen arnynt.
“Bydd cyfle i chi hefyd ddatblygu eich gyrfa, ac rydym yn gyflogwr da a fydd yn gofalu amdanoch ac yn eich helpu i dyfu.
“Felly, os ydych chi’n chwilio am her newydd ym maes gofal cymdeithasol, cymerwch olwg ar ein swyddi gwag diweddaraf.”
Mae llawer o’n swyddi yng Nghyngor Wrecsam yn cynnig…
- Trefniadau gweithio hyblyg i gyd-fynd â’ch ffordd o fyw ✔
- Sefydlogrwydd swydd ✔
- Siwrne hawdd i’r gwaith ✔
- Pensiwn, lwfans gwyliau blynyddol da a buddion eraill ✔
- Datblygu gyrfa ✔