Yn ddiweddar, fe wnaethom gyhoeddi y byddwn yn lansio ein gwaith adeiladu newydd sy’n defnyddio dulliau adeiladu modern – y tro cyntaf erioed i’r Cyngor wneud hynny – ar safle Heol Offa, Johnstown.
Bydd y datblygiad hwn yn disodli 2 dŷ pâr, sydd eisoes wedi’u dymchwel a bloc deulawr o fflatiau un ystafell wely, a bydd yn darparu cartrefi hirdymor naill ai i breswylwyr meddiannaeth unigol neu gyplau, yn unol â Pholisi Dyrannu Cyngor Wrecsam.
Mae’r cyfarfodydd cyn dechrau wedi’u cynnal ac mae wedi’i gadarnhau y bydd y gwaith yn dechrau o 27 Mehefin ymlaen. Byddwn yn parhau i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch ein cynnydd ar y safle hwn, a’r nod yw gorffen y gwaith ddechrau 2025.
Bydd y cartrefi gwyrdd hyn yn cynhyrchu llai o allyriadau carbon na chartrefi a adeiladwyd yn unol â’r Rheoliadau Adeiladu cyfredol, a byddant yn defnyddio technoleg newydd ar gyfer gwresogi, systemau dŵr poeth a lleihau gwastraff gwres, a fydd yn lleihau ôl troed carbon ac yn arbed arian i’n deiliaid contract.
Rydym yn falch y bydd gwaith yn dechrau dros yr Haf, o ystyried y gweledigaethau cynaliadwy hyn.
Bydd y cartrefi yn addas naill ai ar gyfer preswylwyr meddiannaeth unigol neu gyplau. Mae hyn er mwyn mynd i’r afael â’r galw cynyddol am y mathau hyn o eiddo ar draws y Fwrdeistref.
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai, “Dyma gyfle gwych i ni adeiladu cartrefi sy’n mynd i’r afael â’r galw am gartrefi meddiannaeth unigol / cyplau yn Wrecsam.
“Bydd y gwaith yn cynnwys technoleg newydd a fydd yn fanteisiol i’r deiliaid contract yn yr hirdymor.
“Bydd y gwaith yn dechrau dros yr Haf a’r gobaith yw y bydd yn cael ei gwblhau yn 2025. Byddwn yn parhau i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â chi ynghylch ein cynnydd ar y prosiect”