Heb amheuaeth mae bod yn ddigartref a gorfod cysgu allan yn sefyllfa hynod o drist a dinistriol i unrhyw un ac yn ystod y pandemig mae pobl ddigartref wedi wynebu llawer o heriau ac anawsterau.
Am y rheswm hwn a gyda chymorth cyllid Llywodraeth Cymru, rydym wedi bod yn gweithio gyda’n hasiantaethau partner a landlordiaid, gwestai a llety gwely a brecwast lleol i ddod o hyd i atebion llety a fydd yn dal ar gael pan fydd y pandemig drosodd.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Pan ddechreuodd y pandemig roedd gennym eisoes loches nos sef Tŷ Nos ar Holt Road, yn ogystal â llety dros dro a ddefnyddiwyd fel arfer dros y gaeaf.
Fe wnaethom ni wedyn sefydlu llety ychwanegol ym Mhrifysgol Glyndŵr lle gallai cleientiaid gael cymorth personol a rhywle i aros yn ystod y pandemig.
Yn dilyn hynny gwahoddwyd rhagor o geisiadau a llwyddom i sicrhau £2.2 miliwn o gyllid i ddisodli hen loches nos Tŷ Nos gyda chanolfan newydd ar yr un safle.
Yn y cyfamser fe lwyddom i ddod o hyd i westy lleol a oedd yn barod i letya pobl wrth i’r gwaith ar safle Tŷ Nos fynd yn ei flaen.
O ganlyniad i hyn gwelwyd rhai canlyniadau cadarnhaol dros ben ac mae llawer o unigolion wedi gallu canolbwyntio ar ddechrau o’r newydd a chreu dyfodol gwell iddyn nhw eu hunain. Maent wedi gallu mynd i’r afael â phroblemau gydag alcohol neu gyffuriau, dod i o hyd i swyddi, ail-hyfforddi a chael llety cynaliadwy a diogel.
“Digartref ac mewn angen heb unrhyw fai arnyn nhw am hynny”
Meddai’r Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai: “Er bod rhagor o waith i’w wneud, gall Wrecsam fel cymuned gyfan ddathlu’r llwyddiant mewn gofalu am, a chefnogi unigolion a theuluoedd sydd wedi cael eu hunain yn ddigartref heb unrhyw fai arnyn nhw am hynny.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i adeiladu ar lwyddiant y modelau yma er mwyn helpu mwy o bobl yn ystod yr hyn fydd yn gyfnod anodd a heriol iawn i lawer. Hoffwn ddiolch yr holl bartneriaid, landlordiaid a’r gymuned ehangach am eu cymorth gyda hyn oll.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF