Os nad ydych eisoes wedi darllen y newyddion, rydym yn gofyn i chi gymryd rhan wrth siapio ein Cynllun y Cyngor – y ddogfen sy’n rhoi syniadau ynghyd o sut ddylai Wrecsam edrych yn y dyfodol, a sut i gyrraedd yno.
Ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yw Wrecsam ble mae pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial, ffynnu a chyflawni safon uchel o les, a bydd y cyngor yn arweinydd cymunedol cryf a chynhwysol i helpu i wneud i hyn ddigwydd.
I wneud hyn, rydym wedi nodi chwe maes i ganolbwyntio arnynt y credwn fydd fwyaf o fudd i’n cymunedau ac rydym yn gofyn i chi adael i ni wybod os ydych yn meddwl os ydym wedi dewis y rhai cywir yn ein hymgynghoriad yn y ddolen ar ddiwedd yr erthygl hon.
Rydym yn awyddus i’ch cynnwys yn y gwaith o lunio Cynllun y Cyngor a hoffem wybod beth yw eich barn. Rydym am nodi canlyniadau penodol y gallwn ganolbwyntio arnynt ac y gallwn fesur cynnydd yn eu herbyn. Dyma’r canlyniadau y credwn fydd fwyaf buddiol i’n cymunedau.
Ar ôl ei orffen, defnyddir y cynllun i gefnogi penderfyniadau ynghylch sut rydym yn dyrannu arian ac adnoddau eraill. Bydd gwasanaethau pwysig eraill yn parhau i gael eu darparu a bydd manylion y rhain yn cael eu cynnwys yn ein cynlluniau busnes a gwasanaeth mewnol.
Rydym yn gofyn i chi edrych ar Gynllun y Cyngor drafft i ganfod beth rydym yn anelu tuag ato, ac os ydych yn cytuno fod y prif flaenoriaethau y rhai cywir i’n helpu i gyflawni ein gweledigaeth, i gyfrannu at nodau lles Cymru, ac i sicrhau fod pawb yn cael eu trin yn deg.
Os hoffech chi ein helpu i siapio Cynllun y Cyngor, llenwch yr arolwg ar-lein erbyn 14 Mawrth 2023 drwy fynd i www.yourvoicewrexham.com
Os nad ydych chi’n gallu cwblhau’r arolwg ar-lein, mae copïau papur (Cymraeg a Saesneg) ar gael yn y cyfeiriadau canlynol: Y Ganolfan Les, Stryt Caer, Wrecsam, LL13 8BG; Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY, swyddfeydd stadau tai, llyfrgelloedd lleol, a Chanolfannau Clyd eraill ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.
Os hoffech chi lenwi’r arolwg ar ffurf neu iaith arall, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiwn, cysylltwch â ni.
E-bost: telluswhatyouthink@wrexham.gov.uk
Post: Dywedwch Eich Barn, Anecs y 3ydd Llawr, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD