Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wrecsam drwodd i rownd nesaf cystadleuaeth Dinas Diwylliant
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Wrecsam drwodd i rownd nesaf cystadleuaeth Dinas Diwylliant
Pobl a lleBusnes ac addysg

Wrecsam drwodd i rownd nesaf cystadleuaeth Dinas Diwylliant

Diweddarwyd diwethaf: 2021/10/08 at 10:23 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
City of Culture
RHANNU

Mae Wrecsam yn mynd drwodd i rownd nesaf y gystadleuaeth i fod yn Ddinas Diwylliant y DU.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:

“Rydw i wrth fy modd bod Wrecsam wedi cael ei chynnwys yn y rhestr hir – mae’n newyddion gwych ac yn gyrhaeddiad gwirioneddol o ystyried pa mor gryf ydi’r gystadleuaeth.

“Mae yna ffordd bell i fynd, ond mae Wrecsam yn le gwych sydd yn llawn diwylliant, diwydiant a chreadigrwydd, a beth bynnag fydd yn digwydd, gallwn edrych ymlaen at y dyfodol gyda hyder a gobaith.”

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae’r fwrdeistref sirol yn un o 20 lle i gael ei ystyried, a chafodd ei enwi ar ‘restr hir’ Llywodraeth y DU yn gynharach heddiw.

Dim ond wyth lleoliad sydd wedi cyrraedd y rhestr hir, sef:

  • Dinas Armagh, Banbridge a Craigavon
  • Bradford
  • Cernyw
  • Sir Durham
  • Derby
  • Southampton
  • Stirling
  • Bwrdeistref Sir Wrecsam

Bob pedair blynedd, mae tref neu ddinas yn derbyn teitl Dinas Diwylliant y DU – gan helpu i godi proffil, rhoi hwb i’r economi leol a thynnu sylw at bopeth sydd yn dda am y lleoliad.

Coventry yw’r Ddinas Diwylliant ar hyn o bryd.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Dywed Cyngor Wrecsam fod cyrraedd y cam hwn wedi bod yn ymdrech tîm, a dylid rhoi sylw arbennig i ‘Tŷ Pawb’, sydd wedi chwarae rhan allweddol wrth wneud diwylliant yn hygyrch ac yn ddeniadol i bawb yn Wrecsam.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant Nadine Dorries:

“Mae diwylliant ar gyfer pawb, waeth beth fo’u cefndir, ac rwy’n falch iawn y bydd y ceisiadau o’n wyth safle sydd ar y rhestr hir yn helpu ardaloedd ledled y DU lefelu i fyny drwy gynyddu mynediad i ddiwylliant.

“Dymunaf bob lwc i bob un o’n ceisiadau llwyddiannus yng ngham nesaf y gystadleuaeth. Roedd cais Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn un addawol iawn ac edrychaf ymlaen at weld beth fydd ganddynt i’w gynnig.”

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:

“Mewn ton arbennig o geisiadau Dinas Diwylliant y DU, mae Wrecsam wedi gwneud yn eithriadol o dda i chwifio’r faner dros Gymru drwy gyrraedd y rhestr hir.

“Dymunaf bob llwyddiant iddynt wrth iddynt geisio dod yn ddeiliad Cymreig cyntaf teitl Dinas Diwylliant y DU a’r holl gyfleoedd a ddaw yn ei sgil i ardal o bedigri diwylliannol enfawr sy’n cynnwys Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Safle Treftadaeth y Byd, un o glybiau pêl-droed hynaf y byd yn Wrecsam FC a Stiwt Theatre.”

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL

Rhannu
Erthygl flaenorol We Care Wales Wythnos Gofalwn Cymru 11 – 17 Hydref – symudwch i faes gofal cymdeithasol
Erthygl nesaf Mobile App Newyddion Llyfrgelloedd – Ap Pori

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall Awst 8, 2025
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor Awst 7, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 8, 2025
Lucy Cowley
DigwyddiadauPobl a lle

Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni

Awst 6, 2025
Jayne Bryant
Busnes ac addysgPobl a lle

Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m

Awst 5, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English