Wrecsam v Bristol Rovers | Dydd Gwener, 18 Ebrill | cic gyntaf 3yp
Mynd i’r gêm ddydd Gwener yma? Rhowch gynnig ar y gwasanaeth Parcio a Theithio newydd ar Ffordd Rhuthun…
- Parcio y tu allan i swyddfeydd Cyngor Wrecsam ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam LL13 7TU
- Bysiau gwennol yn gadael bob 20 munud o 1yp tan 14.20
Dychweliad o £1 yn unig i oedolion (50c i blant)
Yn ddiweddar cyhoeddodd Cyngor Wrecsam gynllun i dreialu gwasanaeth Parcio a Theithio newydd ar gyfer gweddill gemau cartref Clwb Pêl-droed Wrecsam y tymor hwn.
Y nod yw lleihau tagfeydd a chynnig parcio cyfleus i gefnogwyr sy’n teithio mewn car.
Mae’r gwasanaeth bws gwennol yn cael ei ddarparu gan Arriva North West & Wales, ac mae’r cynllun yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru.
Amseroedd isod (maes parcio yn cau am 7yp)
Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun Ruthin Road Park & Ride | 13:00 | 13:20 | 13:40 | 14:00 | 14:20 |
Ffordd yr Wyddgrug (STōK Cae Ras) Mold Road (STōK Cae Ras) | 13:08 | 13:28 | 13:48 | 14:08 | 14:28 |
Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun Ruthin Road Park & Ride | 13:17 | 13:37 | 13:57 | 14:17 | 14:37 |
Ar ôl y gêm:
Ffordd yr Wyddgrug (STōK Cae Ras) Mold Road (STōK Cae Ras) | – | – | – | 18:00 | 18:20 |
Ffordd Ganolog (Dunelm) Central Road (Dunelm) | 17:00 | 17:20 | 17:40 | – | – |
Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun Ruthin Road Park & Ride | 17:09 | 17:29 | 17:49 | 18:09 | 18:29 |