Mae Wrecsam wedi ennill ‘Dinas Coed y Byd 2024’ am drydedd flwyddyn yn olynol gyda chydnabyddiaeth gan Sefydliad Arbor Day, Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth.
Ar 4 Mawrth 2025, mae Sefydliad Arbor Day unwaith eto wedi enwi Wrecsam fel ‘Dinas Coed y Byd 2024’ i anrhydeddu ei ymrwymiad parhaus i blannu, tyfu a chynnal coed er budd y Ddinas a’r cymunedau cyfagos.
Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i Wrecsam gael ei hanrhydeddu gyda’r wobr fyd-eang fawreddog hon, gan gydnabod gwaith caled ac ymrwymiad ymroddedig staff a gwirfoddolwyr yn eu hymdrech barhaus i gynnal, gwarchod a gwella coed a gorchudd canopi cyffredinol ar draws cymunedau trefol a gwledig yn y Fwrdeistref Sirol.
Sefydliad dielw byd-eang yn yr Unol Daleithiau yw Sefydliad Arbor Day sydd â’r nod o ysbrydoli pobl i blannu, meithrin a dathlu coed. Mae ei rhwydwaith o fwy na miliwn o gefnogwyr a phartneriaid wedi helpu’r sefydliad i blannu mwy na 500 miliwn o goed mewn coedwigoedd a chymunedau ar draws mwy na 60 o wledydd ers 1972. Mae rhaglen ryngwladol Dinasoedd Coed y Byd yn cydnabod dinasoedd a threfi sy’n defnyddio coedwigaeth drefol i wella hyfywedd a chynaliadwyedd eu hardal leol.
“Ar draws ffiniau, mae coed yn dod â phobl at ei gilydd. Ni waeth ym mha wlad rydym yn byw ynddi na pha iaith rydym yn siarad, gallwn i gyd elwa o bŵer cadarnhaol coed,” meddai Michelle Saulnier, Is-lywydd Rhaglenni Sefydliad Arbor Day. “Rydym yn falch bod Wrecsam yn parhau i fod ymhlith rhwydwaith byd-eang Sefydliad Arbor Day o hyrwyddwyr coed sy’n plannu tuag at ddyfodol gwell.”
Mewn dinasoedd a chymdogaethau, mae coed wedi cael eu profi i helpu i liniaru’r effaith ynys wres ddinesig, lleihau dŵr ffo stormydd a llifogydd, gwella ansawdd aer a gwella iechyd corfforol a meddyliol. Pan fydd y coed cywir yn cael eu plannu yn y mannau cywir, gallant hefyd leihau sŵn traffig, cynyddu gwerthoedd eiddo, lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, annog buddsoddiad a chostau ynni is ar gyfer perchnogion tai.
Gall rheolaeth gywir, ragweithiol o goed a’u rôl werthfawr o fewn rhwydwaith seilwaith gwyrdd cysylltiedig gynorthwyo â brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a lleihau lefelau bioamrywiaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi, “Rydym wrth ein bodd bod dinas Wrecsam, unwaith eto, wedi cael ei chydnabod fel Dinas Coed y Byd ac rydym yn falch o ailddatgan ein statws o fewn rhwydwaith byd-eang o drefi a dinasoedd sy’n ymroddedig i ddiogelu a gwella eu stoc coed a hyrwyddo gwerthoedd coed, trwy ymgysylltu â’r gymuned a rheoli asedau’n dda.
“Mae ein cynlluniau plannu coed drwy gydol yr hydref a’r gaeaf blaenorol hwn wedi gweld dros 5,600 o goed yn cael eu plannu ledled y sir ac yng nghanol ein dinas. Gyda chymorth gwerthfawr gwirfoddolwyr lleol, rydym wedi plannu amrywiaeth o rywogaethau o goed o chwipiaid llydanddail brodorol i goed safonol mawr. Mae’r wobr hon yn cydnabod ein hymrwymiad i barhau i sefydlu mwy o orchudd canopi ar draws Wrecsam i 20%. “Mae ein hymrwymiad i goed hefyd wedi cael ei gydnabod gan feirniaid fel rhan o’n ceisiadau llwyddiannus am wobrau Aur i Gymru a Phrydain yn eu blodau y llynedd.”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau’r Amgylchedd “Mae derbyn teitl Dinas Coed y Byd am drydedd flwyddyn yn olynol unwaith eto, yn gydnabyddiaeth am waith caled ac ymdrechion staff y cyngor a chyfraniad hanfodol aelodau’r cyhoedd mewn amrywiol gymunedau, dros y deuddeg mis diwethaf, i blannu a rheoli’r coed sy’n profi mor hanfodol i’n hiechyd a’n lles ac i’n heconomi leol.
“Fel Cyngor, rydym unwaith eto’n gwerthfawrogi’r gydnabyddiaeth fendigedig hon a byddwn yn parhau yn ein hymrwymiad i blannu, gwarchod a gwella coed a choetiroedd unigol sydd gyda’i gilydd yn creu coedwig drefol Wrecsam. “
I ennill cydnabyddiaeth Dinasoedd Coed y Byd, rhaid i ddinas gynnal pum safon graidd: sefydlu cyfrifoldeb dros ofalu am goed; deddfu cyfraith neu bolisi sy’n rheoli coed a choetir; cynnal asesiad wedi’i ddiweddaru o adnoddau coed lleol; dyrannu digon o adnoddau ar gyfer trefn rheoli coed ragweithiol; cynnal dathliadau blynyddol o goed i godi eu proffil a’u gwerthoedd ac i annog cyfranogiad busnesau a thrigolion lleol.
Mae rhaglen Dinasoedd Coed y Byd Sefydliad Arbor Day yn rhaglen sy’n cael ei gweithredu mewn partneriaeth â’r Sefydliad Bwyd ac Amaeth, asiantaeth arbenigol o’r Cenhedloedd Unedig. Mae Sefydliad Arbor Day yn ddi-elw 501(c)(3) sy’n dilyn dyfodol lle mae pob bywyd yn ffynnu trwy bŵer coed. Dysgwch fwy yn arborday.org.