Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wrecsam wedi ennill ‘Dinas Coed y Byd 2024’ am drydedd flwyddyn yn olynol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Wrecsam wedi ennill ‘Dinas Coed y Byd 2024’ am drydedd flwyddyn yn olynol
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Wrecsam wedi ennill ‘Dinas Coed y Byd 2024’ am drydedd flwyddyn yn olynol

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 10, 2025 3:56 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
Wrecsam wedi ennill 'Dinas Coed y Byd 2024' am drydedd flwyddyn yn olynol
RHANNU

Mae Wrecsam wedi ennill ‘Dinas Coed y Byd 2024’ am drydedd flwyddyn yn olynol gyda chydnabyddiaeth gan Sefydliad Arbor Day, Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth.

Ar 4 Mawrth 2025, mae Sefydliad Arbor Day unwaith eto wedi enwi Wrecsam fel ‘Dinas Coed y Byd 2024’ i anrhydeddu ei ymrwymiad parhaus i blannu, tyfu a chynnal coed er budd y Ddinas a’r cymunedau cyfagos.

Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i Wrecsam gael ei hanrhydeddu gyda’r wobr fyd-eang fawreddog hon, gan gydnabod gwaith caled ac ymrwymiad ymroddedig staff a gwirfoddolwyr yn eu hymdrech barhaus i gynnal, gwarchod a gwella coed a gorchudd canopi cyffredinol ar draws cymunedau trefol a gwledig yn y Fwrdeistref Sirol. 

Sefydliad dielw byd-eang yn yr Unol Daleithiau yw Sefydliad Arbor Day sydd â’r nod o ysbrydoli pobl i blannu, meithrin a dathlu coed. Mae ei rhwydwaith o fwy na miliwn o gefnogwyr a phartneriaid wedi helpu’r sefydliad i blannu mwy na 500 miliwn o goed mewn coedwigoedd a chymunedau ar draws mwy na 60 o wledydd ers 1972.  Mae rhaglen ryngwladol Dinasoedd Coed y Byd yn cydnabod dinasoedd a threfi sy’n defnyddio coedwigaeth drefol i wella hyfywedd a chynaliadwyedd eu hardal leol. 

“Ar draws ffiniau, mae coed yn dod â phobl at ei gilydd. Ni waeth ym mha wlad rydym yn byw ynddi na pha iaith rydym yn siarad, gallwn i gyd elwa o bŵer cadarnhaol coed,” meddai Michelle Saulnier, Is-lywydd Rhaglenni Sefydliad Arbor Day. “Rydym yn falch bod Wrecsam yn parhau i fod ymhlith rhwydwaith byd-eang Sefydliad Arbor Day o hyrwyddwyr coed sy’n plannu tuag at ddyfodol gwell.”  

Mewn dinasoedd a chymdogaethau, mae coed wedi cael eu profi i helpu i liniaru’r effaith ynys wres ddinesig, lleihau dŵr ffo stormydd a llifogydd, gwella ansawdd aer a gwella iechyd corfforol a meddyliol. Pan fydd y coed cywir yn cael eu plannu yn y mannau cywir, gallant hefyd leihau sŵn traffig, cynyddu gwerthoedd eiddo, lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, annog buddsoddiad a chostau ynni is ar gyfer perchnogion tai.

Gall rheolaeth gywir, ragweithiol o goed a’u rôl werthfawr o fewn rhwydwaith seilwaith gwyrdd cysylltiedig gynorthwyo â brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a lleihau lefelau bioamrywiaeth.  

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi, “Rydym wrth ein bodd bod dinas Wrecsam, unwaith eto, wedi cael ei chydnabod fel Dinas Coed y Byd ac rydym yn falch o ailddatgan ein statws o fewn rhwydwaith byd-eang o drefi a dinasoedd sy’n ymroddedig i ddiogelu a gwella eu stoc coed a hyrwyddo gwerthoedd coed, trwy ymgysylltu â’r gymuned a rheoli asedau’n dda.

“Mae ein cynlluniau plannu coed drwy gydol yr hydref a’r gaeaf blaenorol hwn wedi gweld dros 5,600 o goed yn cael eu plannu ledled y sir ac yng nghanol ein dinas. Gyda chymorth gwerthfawr gwirfoddolwyr lleol, rydym wedi plannu amrywiaeth o rywogaethau o goed o chwipiaid llydanddail brodorol i goed safonol mawr. Mae’r wobr hon yn cydnabod ein hymrwymiad i barhau i sefydlu mwy o orchudd canopi ar draws Wrecsam i 20%. “Mae ein hymrwymiad i goed hefyd wedi cael ei gydnabod gan feirniaid fel rhan o’n ceisiadau llwyddiannus am wobrau Aur i Gymru a Phrydain yn eu blodau y llynedd.”

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau’r Amgylchedd “Mae derbyn teitl Dinas Coed y Byd am drydedd flwyddyn yn olynol unwaith eto, yn gydnabyddiaeth am waith caled ac ymdrechion staff y cyngor a chyfraniad hanfodol aelodau’r cyhoedd mewn amrywiol gymunedau, dros y deuddeg mis diwethaf, i blannu a rheoli’r coed sy’n profi mor hanfodol i’n hiechyd a’n lles ac i’n heconomi leol.

“Fel Cyngor, rydym unwaith eto’n gwerthfawrogi’r gydnabyddiaeth fendigedig hon a byddwn yn parhau yn ein hymrwymiad i blannu, gwarchod a gwella coed a choetiroedd unigol sydd gyda’i gilydd yn creu coedwig drefol Wrecsam. “

I ennill cydnabyddiaeth Dinasoedd Coed y Byd, rhaid i ddinas gynnal pum safon graidd: sefydlu cyfrifoldeb dros ofalu am goed; deddfu cyfraith neu bolisi sy’n rheoli coed a choetir; cynnal asesiad wedi’i ddiweddaru o adnoddau coed lleol; dyrannu digon o adnoddau ar gyfer trefn rheoli coed ragweithiol; cynnal dathliadau blynyddol o goed i godi eu proffil a’u gwerthoedd ac i annog cyfranogiad busnesau a thrigolion lleol.   

Mae rhaglen Dinasoedd Coed y Byd Sefydliad Arbor Day yn rhaglen sy’n cael ei gweithredu mewn partneriaeth â’r Sefydliad Bwyd ac Amaeth, asiantaeth arbenigol o’r Cenhedloedd Unedig. Mae Sefydliad Arbor Day yn ddi-elw 501(c)(3) sy’n dilyn dyfodol lle mae pob bywyd yn ffynnu trwy bŵer coed. Dysgwch fwy yn arborday.org.

Rhannu
Erthygl flaenorol Sesiynau Nofio Am Ddim Menywod a Merched Sesiynau Nofio Am Ddim Menywod a Merched
Erthygl nesaf Yn ddiweddar, fe wnaeth teuluoedd sydd wedi gwneud byd o wahaniaeth i fywydau pobl ifanc trwy gynnig cartrefi sefydlog a chariadus gyfarfod â Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Teuluoedd mabwysiadol yn rhannu eu profiadau gyda Gweinidog Llywodraeth Cymru

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English