Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wrecsam yn cipio’r aur!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!
Arall
Wrexham v Swansea
Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Pobl a lle
Young Carers Action Day 2026
Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2026
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Wrecsam yn cipio’r aur!
Pobl a lle

Wrecsam yn cipio’r aur!

Diweddarwyd diwethaf: 2024/10/09 at 10:45 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
Wrecsam yn cipio’r aur!
RHANNU

Aur i Wrecsam

Mae’n swyddogol, mae Wrecsam wedi ennill gwobr aur yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau 2024.

Mae neges y gystadleuaeth, ‘Helpu Cymunedau i Dyfu’, yn annog cefnogaeth gymunedol er mwyn gwella’r amgylchedd lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, “Mae’n wych bod ymdrechion y tîm ar draws y sir wedi’u cydnabod am ail flwyddyn yn olynol gyda gwobr aur gan Gymru yn ei Blodau.

“Ar ôl ennill gwobr aur y llynedd, cawsom ein gwahodd i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Prydain yn ei Blodau, yn erbyn Llundain a Dundee. Cawn wybod canlyniadau’r gystadleuaeth honno maes o law, ond am rŵan, mae’n wych gweld gwaith caled y staff a’r gwirfoddolwyr yn dwyn ffrwyth.”

Wrecsam yn cipio’r aur!

Taith y beirniaid

Cafodd y beirniaid daith o Wrecsam i arddangos beth sy’n digwydd ar draws y sir, yn ogystal â Chanol y Ddinas.

Dechreuodd eu taith yng Nghoedpoeth, gyda gardd flaen o fywyd gwyllt naturiol.

Yna aethant ymlaen i Blanhigfa Pentrebychan, lle mae twnelau polythen newydd eu hadnewyddu a rhai newydd wedi’u hadeiladu, gan wella ein gallu i dyfu’n gynaliadwy.

Bu preswylwyr Bradle yn arddangos eu gerddi cymunedol a’u gerddi ffurfiol.

Oddi yno, aeth y beirniaid ymlaen i Ganolfan Ailgylchu FCC i gael sgwrs am gyfraddau ailgylchu a phrosiectau amgylcheddol eraill.

Roedd defnyddwyr a gwirfoddolwyr o brosiect Gardd Furiog Erlas yno i gyfarch y beirniaid a dangos y safle iddynt.

Bu clwb garddio Ysgol Uwchradd Rhosnesni yn dangos eu gwaith yn eu gardd lysiau a’u gardd synhwyraidd wych.

Yn ystod yr ymweliad â Chanol y Ddinas, bu’r beirniaid yn siarad â Phrif Weithredwr Cyngor Wrecsam, Ian Bancroft, yr Arweinydd, y Cynghorydd Mark Pritchard, y Dirprwy Arweinydd, David Bithell, yn ogystal â Maer Wrecsam, y Cynghorydd Beryl Blackmore.

Daeth y daith i ben yn adeilad Tŷ Pawb, lle bu’r beirniaid yn cwrdd â thîm o Gasglwyr Sbwriel Wrecsam, hyfforddeion y Cyngor ac aelodau eraill o’r tîm Amgylcheddol.

Wrecsam yn cipio’r aur!

Adborth y beirniaid     

“Roeddem yn hynod o falch o weld a chlywed am yr amrywiaeth eang o gyfleoedd gwirfoddoli sy’n caniatáu i breswylwyr fod yn rhan weithredol o ofalu am eu mannau gwyrdd lleol.

“Mae ymrwymiad Wrecsam i gyfrifoldeb amgylcheddol wedi’i gofnodi’n glir yn eich portffolio. Da iawn!

“Yn wir, ydyn, mae ystadegau ailgylchu Wrecsam, fel y’i cyflwynir gan FCC Environment, yn wych, roedd yn dda clywed am fathau a niferoedd y digwyddiadau sy’n cael eu trefnu i annog preswylwyr a busnesau yn Wrecsam i ailgylchu ymhellach.

“Roedd yn dda cwrdd â’ch gwirfoddolwyr casglu sbwriel a chlywed faint o sbwriel maen nhw’n ei gasglu’n rheolaidd.

“Rydym wrth ein boddau o ddyfarnu gwobr AUR a Gwobr Categori Dinas Cymru yn ei Blodau 2024 i Wrecsam yn ei Blodau. Llongyfarchiadau lu i chi!”

Rhannu
Erthygl flaenorol holding s Tîm Cymorth Tai Wrecsam – Beth maen nhw’n ei wneud?
Erthygl nesaf Dog Show Achos Llys

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall Mawrth 12, 2026
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!
Arall Mawrth 12, 2026
Wrexham v Swansea
Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?
Digwyddiadau Pobl a lle Mawrth 11, 2026
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Pobl a lle Mawrth 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrexham v Swansea
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?

Mawrth 11, 2026
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Pobl a lle

Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026

Mawrth 11, 2026
Young Carers Action Day 2026
Pobl a lle

Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2026

Mawrth 10, 2026
Wrexham Ty Pawb
DigwyddiadauPobl a lle

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Nhŷ Pawb

Mawrth 9, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English