Bydd Diwrnod y Cadoediad yn cael ei gofio Dydd Mawrth 11 Tachwedd ar Sgwâr y Frenhines a bydd y seiren ymosodiad awyr yn cael ei chanu ar gyfer hyn am 11am.
Bydd y Gwasanaeth Cofio blynyddol eleni’n cael ei gynnal ym Modhyfryd ddydd Sul, 9 Tachwedd ac yn dechrau am 10.55am.
Am 10.59, bydd y biwglwr yn canu’r “Caniad Olaf” a chynhelir dau funud o dawelwch.
Estynnir gwahoddiad i chi ddod i’r digwyddiad teimladwy hwn i gofio’r rhai hynny a frwydrodd ac a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yr Ail Ryfel Byd, a’r holl ryfeloedd sydd wedi rhygnu ymlaen ers hynny.
Cynghorir y cyhoedd y bydd rhwystrau’n cael eu gosod am 10.30am yn y lleoliadau canlynol er mwyn i’r parêd allu pasio’n ddiogel ac i ddiogelu’r ardal o’i amgylch:
- Stryt Caer (ger hen dafarn y Feathers)
- Stryt Holt (ger tafarn y Welch Fusilier)
- Ffordd Caer (ger cylchfan Ffordd Caer/Ffordd Powell)
Bydd mynediad i Faes Parcio Bodhyfryd ger Byd Dŵr, felly, ar gael tan 10.30am yn unig.
Bydd cyfleusterau ar gael i bobl hŷn, musgrell neu anabl ddilyn y gwasanaeth y tu mewn i’r Neuadd Goffa.
Anogir aelodau’r cyhoedd i ddod i un gwasanaeth cofio neu i’r ddau.


