Erthygl gwadd – Glandŵr Cymru, The Canal and River Trust in Wales
Mae model LEGO chwe throedfedd o Ddyfrbont eiconig Pontcysyllte wedi’i greu ac mae’n nodi cychwyn ymgyrch i’r dyluniad gael ei gynnwys yng nghasgliad byd-eang LEGO.
Mae model Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn cael ei arddangos yn Tŷ Pawb yn Wrecsam ac mae’n ysbrydoli ymgyrch sydd angen 10,000 o bleidleisiau ar-lein er mwyn iddo gael ei gynnwys yng nghasgliad byd-enwog LEGO. Hwn fyddai’r tirnod cyntaf o Gymru, a phedwar lleoliad arall yn unig yn y DU sydd wedi’u cynnwys yn y casgliad, sef Big Ben, Tower Bridge, Stadiwm Old Trafford a Sgwâr Trafalgar.
Fe’i comisiynwyd fel rhan o brosiect celf creu lleoedd cymunedol Safle Treftadaeth y Byd, Y Bont sy’n Cysylltu. Caiff y prosiect, sy’n flwyddyn o hyd, ei redeg gan Glandŵr Cymru, sef y Canal and River Trust yng Nghymru, a chaiff ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae trigolion lleol ac ymwelwyr yn cael eu hannog i ymweld â gwefan LEGO er mwyn helpu’r prosiect i gyrraedd 10,000 o bleidleisiau, y trothwy sydd angen ei gyrraedd cyn i LEGO ystyried ychwanegu’r model at eu casgliad eiconig. Byddai hyn yn gwneud Dyfrbont hynod Pontcysyllte a threftadaeth ddiwydiannol Wrecsam yn fwy adnabyddus byth. Rhwng 1962 a 2000, cynhyrchwyd LEGO yn Wrecsam a daeth yn ganolfan ddosbarthu a chanolfan ar gyfer gwneuthurwyr modelau LEGO UK.
Dywedodd Mark Evans, cyfarwyddwr rhanbarthol Cymru yng Nglandŵr Cymru: “Mae Dyfrbont Pontcysyllte, heb os, yn un o eiconau’r dyfrffyrdd, ac mae’r posibilrwydd y gallai gael ei hychwanegu at gasgliad byd-eang LEGO, o ystyried y cysylltiadau hanesyddol gyda’r rhan hon o Gymru a phoblogrwydd LEGO ledled y byd, yn wych.
“Mae’r ddyfrbont yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, ac maent yn dod i weld y tirnod hudolus hwn sy’n cludo Camlas Llangollen ar draws yr Afon Dyfrdwy. Rydyn ni eisiau i bobl gefnogi’r ymgyrch er mwyn gweld y ddyfrbont yn cael ei chynnwys yn y casgliad LEGO.”
Dywedodd Ian Bancroft, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a Chadeirydd Bwrdd Safle Treftadaeth y Byd UNESCO: “Mae gan Wrecsam hen hanes o fod yn gartref i arloesi, diwydiant trwm a gweithgynhyrchu; roedd ffatri LEGO yn gyflogwr poblogaidd a oedd yn darparu swyddi yn yr ardal am ddegawdau. Ar adeg hollbwysig yn hanes Wrecsam, wrth i ni ymdrechu i agor penodau newydd o ran diwylliant a chymdeithas, rwy’n falch iawn o weld y prosiect celf hwn yn talu teyrnged mewn cymaint o ffyrdd i’n gorffennol anhygoel drwy gymunedau Wrecsam Wledig, sef asgwrn cefn a sbardun ein treftadaeth ddiwydiannol hynod enwog.”
Dywedodd Rachel Clacher CBE, Cyd-sylfaenydd Moneypenny a Chadeirydd Bwrdd Dinas Wrecsam: “Am ymgyrch wych i’w chefnogi – dathliad o ddyfeisgarwch y gorffennol wedi’i miniatureiddio mewn cyfrwng eiconig modern sydd ynddo’i hun yn rhan bwysig o stori Wrecsam. Mae hwn yn gyfnod hollbwysig i Wrecsam: mae llygaid y byd arnom ni, a bydd dyfodol ein dinas falch yn cael ei siapio gan yr hyn a wnawn yn awr er budd ein pobl ifanc. Mae’r ymgyrch hon a’r prosiect hwn yn ychwanegu at y llu o bethau cyffrous o’r radd flaenaf sy’n digwydd yma ar hyn o bryd – mae gan Wrecsam ddyfodol disglair.”
Fel rhan o’r ymgyrch bydd tri model bychan pwrpasol yn cael eu harddangos fel rhan o ddigwyddiad Safle Treftadaeth y Byd ar 23 a 24 Tachwedd i ddathlu treftadaeth, diwylliant, arloesedd ac etifeddiaeth cymunedau Trefor, Froncysyllte, Cefn Mawr a’r Waun. Gallwch ymweld â’r modelau hyn a phleidleisio wyneb yn wyneb yn siop nwyddau Clwb Pêl-droed Wrecsam, Canolfan Ymwelwyr Basn Trefor Glandŵr Cymru, neu ar y dyfrffyrdd wrth fynd ar daith ar draws y ddyfrbont ar fwrdd cwch Seren Fach Anglo Welsh.
Dywedodd Prif Weithredwr Clwb Pêl-droed Wrecsam, Michael Williamson: “Rydym yn falch gefnogi’r ymgyrch i gynnwys y dyluniad o Ddyfrbont eiconig Pontcysyllte yng nghasgliad byd-eang LEGO.
“Gan bod ymwelwyr yn dod i’n dinas o bob rhan o’r byd, mae’n bwysig dathlu ac amlygu hanes a threftadaeth ein rhanbarth ymysg ein cynulleidfa eang ac mae hwn yn brosiect gwych sy’n gwneud hynny.
“Mae’r Ddyfrbont a hanes eiconig LEGO ei hun yn Wrecsam yn gwneud hon yn bartneriaeth heb ei hail, ac rydym yn annog pawb i ymweld â ni yn Siop y Clwb yn y STōK Cae Ras i weld y model a bwrw eich pleidlais.”
Dywedodd Claire Farrell, cyfarwyddwr prosiect Y Bont sy’n Cysylltu: “Rydym wedi cyffroi wrth lansio’r modelau LEGO hyn o Ddyfrbont Pontcysyllte fel rhan o ddigwyddiad arbennig a gynhelir ar 23ain a 24ain Tachwedd i ddathlu treftadaeth a diwylliant cymunedau Trefor, Froncysyllte, Cefn Mawr a’r Waun. Llond llaw yn unig yw’r cymunedau hyn o’r trefi a’r pentrefi ôl-ddiwydiannol niferus sydd ar lan y dyfrffyrdd sy’n gwneud Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, y Tirwedd Cenedlaethol a’r ardal gyfagos mor unigryw. Mae olion treftadaeth bensaernïol a diwydiannol y gelir eu gweld o hyd yn y dirwedd yn denu cannoedd o filoedd o bobl bob blwyddyn ac mae’r dreftadaeth yn parhau i gael ei siapio gan ei gymunedau – rhai ohonynt yn adnabyddus, eraill nad ydynt wedi’u darganfod eto.”
Mae’r model a’r Ddyrfbont miniatur wedi’i chreu gan grëwr o Gymru sy’n disgrifio ei hun fel ‘Lego Banksy’ byd y ‘crewyr’ LEGO ac mae wedi creu sawl cofeb o Gymru. Pan fydd yr arddangosfa o’r model wedi dod i ben yn Tŷ Pawb, bydd yn dod yn rhan o adnoddau dysgu Glandŵr Cymru yn y Gofod Adnoddau Addysg newydd ger y Ddyfrbont.