Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wrecsam yn paratoi ar gyfer ymgyrchoedd cofio blynyddol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Wrecsam yn paratoi ar gyfer ymgyrchoedd cofio blynyddol
Pobl a lleDigwyddiadau

Wrecsam yn paratoi ar gyfer ymgyrchoedd cofio blynyddol

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 22, 2025 10:49 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Metal poppy displays on the library field
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam ar fin nodi lansiad Apêl y Pabi mewn cydweithrediad â’r Lleng Brydeinig Frenhinol.

Cynnwys
  • Dyddiad i’r dyddiadur
  • Dangoswch eich cefnogaeth
  • Fe’u Cofiwn Hwy

Bob blwyddyn, mae’r wlad yn ymgynnull i gofio’r aberth eithaf a roddodd dynion a menywod sydd wedi gwasanaethu, ddoe a heddiw, er mwyn i bob un ohonom ni fyw mewn heddwch. Yma yn Wrecsam, nid oes eithriad. Mae’r ddinas yn falch iawn o’i chysylltiadau milwrol a’r milwyr lleol sydd wedi gwasanaethu’n ddewr dros eu gwlad. Bob mis Hydref, mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn dechrau ei Apêl y Pabi i godi arian i gefnogi personél sy’n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu a’u teuluoedd.

Dyddiad i’r dyddiadur

Eleni, bydd y lansiad yn cael ei gynnal y tu allan i Neuadd y Dref yn Wrecsam ddydd Sul 26 Hydref am 9 a.m. Bydd cyn-filwyr lleol yn ymuno ag aelodau o’r Lleng Brydeinig Frenhinol i nodi’r achlysur. Yn dilyn hyn, bydd ein cyn-filwyr yn gorymdeithio ar draws Llwyn Isaf draw at gofeb y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig am wasanaeth byr.

Dangoswch eich cefnogaeth

Gallwch gymryd rhan drwy brynu eich pabi i’w wisgo’n falch wrth gefnogi achos ardderchog hefyd. Yma yn Neuadd y Dref, bydd pabïau enfawr yn cael eu harddangos ar y balconi i gymryd rhan yn yr ymgyrch codi arian.

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, “Bob blwyddyn, mae’r gefnogaeth y mae pobl Wrecsam yn ei dangos i Apêl y Pabi yn rhagorol. Mae’n amser i fyfyrio wrth i ni ddiolch a chofio’r rhai a roddodd yr aberth eithaf er mwyn i ni fyw mewn heddwch. Rwy’n falch, unwaith eto, o fod yn rhan o’r ymgyrch codi arian wych hon a does gen i ddim amheuaeth y bydd yn flwyddyn lwyddiannus arall i’r apêl”.

Mae yna lawer o ffyrdd eraill y gallwch chi gefnogi a chyfrannu at y Lleng Brydeinig Frenhinol. Am ragor o fanylion ac am ragor o wybodaeth am y gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud, ewch i wefan y Lleng Brydeinig Frenhinol.

Fe’u Cofiwn Hwy

Eleni, bydd y Gwasanaeth Cofio Blynyddol yn cael ei gynnal ddydd Sul 9 Tachwedd am 10.55 a.m. ym Modhyfryd. Mae gwahoddiad a chroeso i bawb fynychu wrth i ni ymgynnull i gofio. Bydd Diwrnod y Cadoediad yn cael ei arsylwi ddydd Mawrth 11 Tachwedd ar Sgwâr y Frenhines ac mae aelodau o’r cyhoedd yn cael eu hannog i fynychu hwn hefyd. Bydd y seiren cyrch awyr yn cael ei seinio ar draws canol y ddinas am 11 a.m.

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrecsam v oxford Wrecsam v Oxford Utd – gwybodaeth am barcio
Erthygl nesaf Torf yn Nôl yr Eryrod ar gyfer Cynnau'r Goleuadau Nadolig yn Wrecsam. Cynnau’r Goleuadau Nadolig a Gorymdaith Llusernau 2025

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English