Mae Cyngor Wrecsam wedi estyn eu cydymdeimladau dwysaf i deulu ac etholwyr Syr David Amess a gafodd ei lofruddio.
Cafodd Syr David ei drywanu wrth gwrdd â thrigolion yn Leigh-on-Sea ddydd Gwener, ac mae ei farwolaeth wedi dod a sioc a thristwch ar draws y DU.
Roedd wedi gwasanaethu fel AS ar gyfer Southend West ers 1997, ac fel AS ar gyfer Basildon am nifer o flynyddoedd cyn hynny. Roedd yn 69 oed ac yn briod gyda phump o blant.
Heddiw, talodd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Ronnie Prince deyrnged i Syr David, ar ran holl gynghorwyr a swyddogion Cyngor Wrecsam.
Dywedodd: “Hoffwn estyn ein cydymdeimladau dwysaf i deulu ac etholwyr Syr David wrth iddynt ddod i delerau â cholli gŵr a thad annwyl ac AS.
“Gwasanaethodd Syr David bobl Southend West a Basildon am nifer o flynyddoedd, ac roedd parch mawr tuag ato yn San Steffan ac yn ei gymuned.
“Mae ei deulu wedi dangos cymaint o drugaredd a dewder ers y digwyddiadau trasig ddydd Gwener, ac wedi galw ar bobl i roi casineb i’r neilltu a gweithio tuag at undod.
“Gallwn ond ddychmygu sut mae eu byd wedi troi wyneb i waered, ac mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn.”
Mae’r faner tu allan i Neuadd y Dref Wrecsam yn cael ei chwifio’n isel er cof am Syr David.