Gyda dim ond ychydig wythnosau i fynd mae’r tymheredd yn poethi ar gyfer gŵyl lenyddol Gwyl Geiriau Wrecsam.
Mae gennym nifer o awduron sy’n gwerthu orau fel rhan o’r arlwy gyffrous eleni. Bydd Tim Weaver yn ymddangos nos Fawrth 25 Ebrill, 7yp yn llyfrgell Wrecsam. Bydd Tim yn siarad am ei llyfr werthu orau Black Bird, ynghyd â sut mae’n datblygu cyfres deledu wreiddiol ochr yn ochr ag un o dimau drama mwyaf ac uchaf ei barch y DU.
Mae nofelau Mike Gayle wedi bod ar rhestr Richard and Judy Book Club yn cynnwys Half a World Away a All The Lonely People, a gafodd eu galw gan The Guardian fel ‘Golwg torcalonnus a dyrchafol yn y pen draw ar unigedd’. Bydd Mike yma i ddweud wrthym am y llyfrau hyn a mwy ar ddydd Iau 27 Ebrill, 7yp yn Llyfrgell Wrecsam.
. Fel pe na bai hynny’n ddigon mae gennym hefyd ddau awdur sy’n gwerthu orau ar gyfer ein digwyddiad cloi. Bydd Erica James a Lucy Diamond yn adrodd hanesion am eu hoffter o ysgrifennu llyfrau sy’n dod yn werthwyr gorau a’r teithiau a gymerant i gyrraedd yno! Byddant yn ymddangos yn Llyfrgell Wrecsam ar ddydd Sadwrn 29 Ebrill, 7pm. . I gael rhagor o fanylion a’r rhaglen lawn o ddigwyddiadau ewch i www.wrexhamcarnivalofwords.com
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD