Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rydym ni’n ymgynghori ar ein Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer Canol Dinas Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Rydym ni’n ymgynghori ar ein Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer Canol Dinas Wrecsam
Y cyngor

Rydym ni’n ymgynghori ar ein Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer Canol Dinas Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mai 26, 2023 12:39 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Wrexham city centre
RHANNU

Gallwch bellach ddweud eich dweud ar ein Cynllun Creu Lleoedd, sydd yn ymwneud â gwella canol Wrecsam, ac rydym ni’n gofyn i chi ddylanwadu sut y dylai edrych, teimlo a gweithio.

Yn benodol, mae arnom eisiau i’r cynllun hyrwyddo dyluniad a datblygiad gwell, a helpu i sefydlu defnydd a gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd mwy deniadol yng nghanol y ddinas.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Y nod yw gwneud Wrecsam yn brif gyrchfan i bobl ar draws ardal Wrecsam, fel y lle i siopa, gweithio, dysgu, a mwynhau diwylliant ac adloniant. Canolfan sydd yn rhoi hyder ac anogaeth i ddatblygwyr, busnesau a sefydliadau i fuddsoddi yn y ddinas.

Yn union fel mae economi ehangach Wrecsam wedi newid dros yr ugain mlynedd ddiwethaf, mae ar ganol Wrecsam angen mynd drwy gyfnod o newid hefyd.

Mae gwaith eisoes ar y gweill, i ymateb i batrymau gwahanol o ran siopa a byw, ac i ehangu ei asedau diwylliannol, masnachol a chymunedol.

Fodd bynnag, mae heriau yn wynebu canol y ddinas, ac mae’r strategaethau a phrosiectau arfaethedig a nodir yn y Cynllun yn ceisio ymdrin yn uniongyrchol â nhw.

Mae yna bedair ardal wahanol, a phob un wedi’i diffinio gan ei gymeriad trefol, defnydd tir presennol a’u potensial ar gyfer newid.

  • Yr Hen Dref – wedi’i diffinio gan ei threftadaeth, patrwm strydoedd a defnydd tir manwerthu a diwylliannol.  Y nod yw dathlu hunaniaeth Wrecsam drwy barhau i wella ac adfer cymeriad y treflun hanesyddol a chreu cyrchfan yng “nghalon hanesyddol” y ddinas.
  • Y Rhan Ddinesig – wedi’i diffinio gan ei champws agored, gwyrdd a chrynhoad o gyfleusterau dinesig a chyflogaeth.
  • Coridor Stryt y Rhaglaw – wedi’i ddiffinio gan ei ffurf linellol a’i gysylltiad â’r orsaf rheilffordd a’r buddsoddiad ym Mhorth Wrecsam.
  • Ffrwd Gwenfro – wedi’i diffinio gan ei ffurf drefol dameidiog a safleoedd mawr gwag, neu heb gael eu defnyddio.

I ddweud eich dweud am yr ardaloedd hyn, cliciwch yma.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, “Mae gan Wrecsam hunaniaeth unigryw a balch, a bellach mae pobl yn siarad am y ddinas ym mhob twll a chornel o’r byd yn dilyn y cais ar gyfer Dinas Diwylliant a llwyddiant Clwb Pêl-droed Wrecsam gyda’u perchnogion newydd o Hollywood.

“Mae gennym ni bellach rhagor o gyfleoedd i fuddsoddi yng nghanol y ddinas a buaswn i’n annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a’n helpu ni i fod â Chynllun sydd yn manteisio ar y cyfleoedd hynny.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio, “Rydym ni eisiau canol y ddinas sydd yn canolbwyntio ar bobl, lle gall ymwelwyr aros ac ymlacio, dod â’u teuluoedd a mwynhau popeth sy’n cael ei gynnig.

“Mae hi’n gyfnod heriol iawn ond rydym ni’n hyderus y gallwn fod â chanol y ddinas sydd yn brif gyrchfan i bobl ar draws y rhanbarth.”

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham indoor markets Busnes fel arfer ym marchnadoedd hanesyddol Wrecsam cyn dechrau’r gwaith ailwampio
Erthygl nesaf carnival of words 2023 Gŵyl Geiriau Wrecsam 22 – 29 Ebrill

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 14, 2026
glyndwr
Oeddech chi’n gwybod am Fforwm Landlordiaid 2026 yn Wrecsam?
Digwyddiadau
Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Guildhall
Y cyngor

Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth

Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English