Mae trefnwyr y digwyddiad hynod boblogaidd hwn yn falch iawn o gyhoeddi y bydd yr Ŵyl eleni yn dechrau ddydd Iau, 23 Ebrill ac yn parhau hyd at ddydd Sadwrn, 2 Mai.
Cynhelir yr ŵyl, sydd bellach yn eich chweched blwyddyn, mewn lleoliadau ar draws canol y dref ac mae erbyn hyn yn un o wyliau llenyddol blaenllaw Cymru.
Mae gwyliau llenyddol fel hyn yn rhoi cyfle i chi gwrdd ag enwogion y byd llenyddol, eu clywed yn darllen, gofyn iddynt lofnodi eich llyfrau a chymdeithasu â darllenwyr eraill.
Yr awdur Jim Kelly, crëwr tair cyfres trosedd sydd wedi ennill gwobr, fydd yn arwain y digwyddiad cyntaf ar y Rhaglen ac yna fe fydd pobl ifanc yn gorymdeithio drwy’r dref i ddathlu Noson Llyfrau’r Byd.
Bydd Elizabeth Chadwick (The Irish Princess), Amanda Prowse a’i mab Josh (The Boy Between), Matt Hilton (Rough Justice), Neil Spring (The Burning House), a gwyddonydd preswyl One Show y BBC, Marty Jopson yn ein tywys ni i ‘Fydau Anweledig’ yn y rhaglen gyffrous hon.
“Mae Gŵyl Geiriau Wrecsam hefyd yn cynnwys y cerddor lleol poblogaidd, Luke Gallagher”
Eleni, mae Gŵyl Geiriau Wrecsam hefyd yn cynnwys y cerddor lleol poblogaidd, Luke Gallagher. Yn ystod ei wyth mlynedd o gigio a recordio, mae Luke wedi’i ysbrydoli gan y bobl mae’n eu hadnabod, y bobl mae’n cwrdd â nhw a’r straeon mae’n eu clywed. Am un noson arbennig, cewch glywed am y straeon y tu ôl i’r caneuon ganddo ef – a chlywed rhai o’r caneuon hynny o safbwynt hollol newydd.
Byddwn hefyd yn cyflwyno elfen gwbl newydd i’r Ŵyl eleni, sef Diwrnod Hanes, fe fydd y diwrnod ei hun yn cynnwys 6 digwyddiad, yn cynnwys yr awduron poblogaidd Barbra Erskine a Peter Doyle, ail-greu digwyddiadau milwrol, sesiynau holi ac ateb a llawer mwy!
Bydd barddoniaeth hefyd yn rhan o’r rhaglen eleni, yn cynnwys dychweliad noson meic agored Viva Voce.
Yn sicr, ni fydd y rhai sy’n mwynhau ffuglen drosedd eisiau methu’r digwyddiad Dirgelwch Llofruddiaeth yn Llyfrgell Wrecsam gan yr awdur poblogaidd Kate Ellis.
Gan ei fod mor boblogaidd y tro diwethaf, bydd yr awdur Aled Lewis Evans yn ei ôl i siarad am ei lyfr diweddaraf.
Bydd Gŵyl Geiriau Wrecsam yn dod i ben â digwyddiad gan Fam a mab, Amanda a Josh Prowse, a fydd yn adrodd stori dorcalonnus ond calonogol o siwrnai dyn ifanc gyda salwch meddwl o lanc ifanc doniol, smart yn dechrau ar fywyd prifysgol i hogyn ar yr ymylon, oedd wedi cynllunio sut a phryd y byddai’n cymryd ei fywyd ei hun.
Dim ond blas o’r hyn sydd ar gael yn ystod yr Ŵyl yw’r uchod, felly beth am gael golwg ar y rhaglen gyfan sydd ar gael o lyfrgelloedd lleol, lleoliadau cymunedol a lleoliadau eraill neu cewch weld y rhaglen yma.
Mae tocynnau ar gyfer digwyddiadau ar gael ar-lein neu o Lyfrgell Wrecsam.
Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio o 17 Chwefror
RYDW I EISIAU TALU RŴAN