Mae Adran Tai Cyngor Wrecsam nawr wedi cwblhau tair rownd o welliannau mawr i’w stoc Tai Gwarchod. Y diweddaraf i’w gwblhau yw Maes y Capel yng Nghoed-poeth.
Bydd Maes y Capel yn darparu 18 o gartrefi newydd eu hadnewyddu ar gyfer deiliaid contractau sy’n dychwelyd a rhai newydd.
Mae’r gwaith adnewyddu’n darparu cyfleusterau byw’n annibynnol wedi’u moderneiddio i bobl dros 60 oed.
Mae Maes y Capel yn dilyn llwyddiant gwaith adnewyddu blaenorol a gwblhawyd yn Llai a Rhos, mewn cydweithrediad â Read Construction.
Yn yr un modd â’r gwaith blaenorol nod y gwaith adnewyddu hwn oedd gwella maint a hygyrchedd y fflatiau i sicrhau’r cysur mwyaf, tra’n parhau i ddarparu cartrefi cynnes ac ynni-effeithlon. I wneud hynny, mae ffenestri gwydr triphlyg a phympiau gwres ffynhonnell aer wedi’u gosod.
Mae’r gwaith wedi blaenoriaethu creu ardal gymunedol sydd ar gael i bob deiliad contract at ddibenion cymdeithasu, gan geisio cynorthwyo gyda lles y deiliaid contractau a lleihau lefelau unigrwydd.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd, “Rydyn ni’n falch ein bod ni wedi cwblhau gwaith adnewyddu pellach ar ein stoc Tai Gwarchod.
“Bydd cwblhau Maes y Capel yn rhoi cartref newydd ei adnewyddu i ddeiliaid contractau sy’n dychwelyd a rhai newydd, a fydd yn annog byw’n annibynnol ochr yn ochr ag ysbryd cymunedol.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at symud i’n gwaith adnewyddu nesaf yn Wisteria Court a byddwn yn parhau i’ch diweddaru drwy gydol y broses.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Anthony Wedlake ar ran Coedpoeth, “Rwyf i, fel y rhan fwyaf o drigolion Coedpoeth, wedi gwylio’r gwaith adnewyddu gyda diddordeb. Nawr ei fod wedi’i gwblhau, gallwn ei edmygu â balchder.
“Ar ôl ymweld â chartref yn y Rhos a adnewyddwyd yn flaenorol, gallaf sicrhau trigolion ei fod yn edrych gystal ar y tu mewn ag y mae ar y tu allan. Rwy’n dymuno pob hapusrwydd i’r preswylwyr sy’n dychwelyd a’r preswylwyr newydd yn eu cartref newydd.”
Meddai’r Cynghorydd Krista Childs ar ran Coed-poeth, “Mae’r tu allan i adeilad Maes y Capel wedi’i weddnewid yn llwyr ar ôl gwaith adnewyddu gan Read Construction, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y gwelliannau y tu mewn i’r adeilad yn fuan iawn.
“Rwy’n gwybod bod llawer o breswylwyr hefyd yn gyffrous am y gwelliannau newydd i’w llety a fydd yn gwneud y cyfleuster hwn yn amgylchedd llawer mwy cyfforddus.”
Beth nesaf i’r prosiect Adnewyddu Tai Gwarchod?
Er bod gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ar Faes y Capel, mae gwaith adnewyddu pellach hefyd wedi dechrau yn Wisteria Court.
Mae gwaith yn Wisteria Court yn dal i ddatblygu’n dda. Mae’r gwaith mewnol yn symud ymlaen, gan fod y fflatiau wedi’u ffurfio a’u plastro’n barod ar gyfer y camau nesaf. Mae’r tu allan i’r adeilad yn datblygu yn unol a’r cynllun, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau â’r prosiect hwn.
Adeiladwyd Wisteria Court ar ddechrau’r 1980au, ac roedd yn cynnwys 26 o fflatiau. Felly, nod Cyngor Wrecsam yw addasu’r hen adeilad hwn yn amgylchedd modern a chroesawgar.
Ydych chi erioed wedi ystyried byw mewn Tai Gwarchod?
Os hoffech gael eich ystyried am Lety Gwarchod, neu os ydych chi’n nabod rhywun y gallai hyn fod yn addas iddynt, llenwch ffurflen gais ar-lein neu ymwelwch â’ch swyddfa ystâd leol.