Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae disgwyl i Gyngor Wrecsam fuddsoddi £200,000 mewn gwasanaethau bws lleol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Mae disgwyl i Gyngor Wrecsam fuddsoddi £200,000 mewn gwasanaethau bws lleol
Y cyngorArall

Mae disgwyl i Gyngor Wrecsam fuddsoddi £200,000 mewn gwasanaethau bws lleol

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 7, 2023 10:46 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Bus Services
RHANNU

Dydd Mawrth nesaf (11 Gorffennaf 2023) bydd y Bwrdd Gweithredol yn pleidleisio ar fuddsoddi £200,000 i wella gwasanaethau bws lleol.

Bydd yr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa’r arian pontio gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â bwriad y Cyngor i gefnogi’r rhwydwaith bysiau lleol.

Fe ofynnir i Aelodau sicrhau fod yr arian yn cael ei ddefnyddio i adeiladu ar y rhwydwaith bysiau presennol a buddsoddi mewn gwasanaethau cynyddol gyda’r nos ac ar benwythnosau, a all agor y gwasanaeth bws lleol i ddefnyddwyr newydd.

Hefyd mae cynlluniau i ymgysylltu gyda budd-ddeiliaid allweddol er mwyn deall y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu o ran defnyddio cludiant cyhoeddus.

“Mae’r rhwydwaith bysiau wedi dioddef dros y blynyddoedd diwethaf”

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai sydd â Chyfrifoldeb dros Gludiant Strategol fod gweinyddiaeth y Cyngor wedi cefnogi buddsoddiad o £200,000 eleni yn y rhwydwaith bysiau lleol. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Bithell, “Mae’r rhwydwaith bysiau wedi dioddef dros y blynyddoedd diwethaf gyda thoriadau parhaus i wasanaethau. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r diwydiant bysiau i adolygu a gwella’r rhwydwaith yn arbennig yn dilyn y pandemig. Mae’n bwysig o ystyried ein hymgyrch ar ddatgarboneiddio wrth i ni edrych ar ddulliau eraill o ran cludiant sy’n wahanol i’r car ac i wneud hyn mae angen i ni weld gwelliant o ran cludiant cyhoeddus.

“Mae’r cyllid hwn ym mlwyddyn un yn cefnogi llwybrau presennol drwy ehangu gwasanaethau gyda’r nos ac ar benwythnosau yn ddibynnol ar gaffael. Bydd hyn hefyd yn cefnogi’r economi leol ac yn cefnogi canol ein dinas ac yn annog pobl i edrych ar ddulliau eraill o ran teithio. Rydym hefyd yn lobïo gweithredwyr bysiau a Llywodraeth Cymru yn frwd i leihau eu prisiau ac annog mwy o ddefnydd o fewn y diwydiant bysiau. 

“Yn ddibynnol ar gymeradwyaeth y bwrdd gweithredol fe fyddwn yn edrych ar gyflwyno ac ehangu’r rhwydwaith yn gynnar yn yr hydref.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Dau brosiect yn Wrecsam yn denu ymwelwyr arbennig Dau brosiect yn Wrecsam yn denu ymwelwyr arbennig
Erthygl nesaf Dreigiau a Rhyfelwyr – Arddangosfa Cwpan y Byd Digartref yn agor yn Amgueddfa Wrecsam Dreigiau a Rhyfelwyr – Arddangosfa Cwpan y Byd Digartref yn agor yn Amgueddfa Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
Housing Image
Y cyngor

Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru

Hydref 7, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English