Mae Cyngor Wrecsam yn parhau i fod yn ymrwymedig i’w rhaglen gosod ffenestri a drysau newydd 10 mlynedd i wella effeithlonrwydd gwres a diogelwch eu heiddo ac mae’n cefnogi ymrwymiad parhaus y Cyngor i ddarparu cartrefi sy’n bodloni’r “Safon Ansawdd Tai Cymru” newydd ac sydd hefyd yn cyfrannu tuag at ddatgarboneiddio ein stoc dai.
Mae’r rhaglen 10 mlynedd yn amodol ar gyllid, lle mae’r holl raglenni buddsoddi o fewn y gwasanaeth Tai o dan yr un pwysau cyllidebol.
Mae’r rhaglen yn cael ei darparu drwy ganolbwyntio ar oed y ffenestri a’r drysau presennol o’n system rheoli asedau.
Yn ystod cam cyntaf y rhaglen, rydym wedi cwblhau dros 400 o eiddo ar draws Wrecsam a phentrefi cyfagos Holt, Llannerch Banna, Owrtyn, Bettisfield, Bangor-Is-y-Coed, Gwersyllt, Cefn y Bedd, Cefn Mawr a Phentre Maelor.
Mae mwy o ardaloedd wedi’u cynnwys yn ystod ail gam y rhaglen, sydd i fod i ddechrau a rhedeg yn ystod blwyddyn ariannol 2024-25.
Fel rhan o’n hymgais i leihau ein hôl-troed carbon, mae’r ffenestri a’r drysau presennol sy’n cael eu tynnu yn cael eu hailgylchu mewn ffatri ailgylchu a’u prosesu’n resin fel eu bod yn gallu cael eu hailddefnyddio ar gyfer eitemau eraill.
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai, “Rydym wedi ymrwymo i barhau i ddarparu ffenestri a drysau o ansawdd uchel drwy ein rhaglen 10 mlynedd, bydd hyn yn amodol ar y cyllid sydd ar gael.
“Mae ein hail gam i fod i ddechrau yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, ac rydym yn edrych ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynnydd.”