Bydd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam yn fwy hygyrch i deuluoedd a gofalwyr yn ddiweddarach y mis hwn. Cyhoeddir cynlluniau i fynd yn symudol a chynnal sesiynau galw heibio drwy’r fwrdeistref sirol 🙂
- Bob trydydd dydd Llun yn Llyfrgell Y Waun rhwng 10am a 12pm, yn dechrau ar 17 Chwefror
- Bob trydydd dydd Mawrth yng Nghanolfan Adnoddau Acton rhwng 10am a 12pm yn dechrau ar 17 Mawrth
- Dydd Mawrth cyntaf y mis ym Mhlas Pentwyn, Coedpoeth, rhwng 1pm a 3pm, yn dechrau ar 4 Chwefror
- Ail ddydd Mawrth y mis yn Llyfrgell Wrecsam rhwng 1pm a 3pm, yn dechrau ar 11 Chwefror
- Dydd Mercher cyntaf y mis yn Llyfrgell Cefn Mawr rhwng 1pm a 3pm, yn dechrau ar 4 Mawrth
- Dydd Iau olaf y mis yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt rhwng 1pm a 3pm, yn dechrau ar 27 Chwefror
- Dydd Iau cyntaf y mis yng Nghanolfan Adnoddau Llai rhwng 10am a 12pm, yn dechrau ar 6 Chwefror
- Dydd Gwener olaf y mis yng Nghanolfan Adnoddau Brynteg rhwng 1pm a 3pm, yn dechrau ar 28 Chwefror
- Dydd Gwener cyntaf y mis yn Llyfrgell Rhos rhwng 10am and 12pm, yn dechrau ar 6 Mawrth
Ail ddydd Gwener y mis yn Llyfrgell Rhiwabon rhwng 10am a 12pm, yn dechrau ar 14 Chwefror - Dydd Mercher olaf y mis yn Nhwr Rhydfudr (Ystâd Ddiwydiannol) rhwng 12pm a 2pm, yn dechrau ar 26 Chwefror
Meddai’r Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Dyma syniad gwych. Mae’n gwneud y gwasanaeth yn llawer mwy hygyrch i rieni a gofalwyr. Rwy’n gwybod bod staff yn frwd iawn am y gwasanaethau maen nhw’n eu darparu, ac yn awyddus iawn i gyrraedd cymaint o bobl â phosibl.”
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth am ddim i rieni a gofalwyr plant a phobl ifanc rhwng 0 a 19 oed.
Gallwch ofyn iddyn nhw am y gefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd, gofal plant a chostau gofal plant, gweithgareddau plant ar draws y fwrdeistref sirol ar ôl ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol. Iechyd a Lles, gan gynnwys iechyd meddwl ac emosiynol, rhianta a chefnogaeth rhianta, datblygiad ac ymddygiad plant. Cydbwyso bywyd a gwaith, addysg, tai, cyngor ar fudd-daliadau a dyled a beichiogrwydd.
Os ydych chi’n feichiog neu os oes gennych chi blentyn ifanc iawn, efallai y byddai’r erthygl hon o ddiddordeb i chi:
Mae staff yn cynnig cyngor a chymorth er mwyn helpu rhieni i gael mynediad at y gwasanaethau cynnal sydd eu hangen arnyn nhw.
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam wedi’i leoli yn Galw Wrecsam ar Stryt yr Arglwydd, ac mae ar agor bob dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 9:30 a 12:30 ac ar ddydd Iau rhwng 10:30 a 12:30. Gallwch hefyd gysylltu â nhw’n uniongyrchol drwy ffonio 01978 292094 neu anfon e-bost at fis@wrexham.gov.uk.
Gallwch ddysgu mwy am Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam ar ein gwefan:
Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch
Get the latest gritting info straight into your inbox
COFRESTRWCH FI RŴAN