Fel rhan o’n cais i gystadleuaeth Cymru yn ei Blodau, rydym yn gwahodd busnesau ar draws y fwrdeistref sirol i gymryd rhan trwy ymgeisio yng nghystadleuaeth “Wrecsam yn ei Blodau -Arddangosfa Flodau Orau”.
Meini Prawf Cystadleuaeth Wrecsam yn ei Blodau:
- Rhaid i arddangosfa gyffredinol gynnwys o leiaf 2 bot plannu, neu 2 flwch ffenestr neu 2 fasged grog.
- Ni ddylai unrhyw arddangosiadau fod mewn man a allai achosi rhwystr neu anaf.
Rhoddir pwyntiau am:
- Plannu sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd: defnyddio planhigion cartref, compost di-fawn, defnyddio gleiniau perlite i gadw dŵr, dim defnydd o fwsogl. (Mae uchafswm o 10 pwynt ar gael).
- Cynlluniau plannu creadigol a llawn dychymyg. (Mae uchafswm o 7 pwynt ar gael).
- Effaith weledol gyffredinol (Mae uchafswm o 3 phwynt ar gael).
Mae ffurflenni cais ar gael trwy anfon e-bost at WrexhaminBloom@wrexham.gov.uk a dylid ei ddychwelyd erbyn dydd Mercher 12 Mehefin.
Bydd beirniaid y gystadleuaeth yn ymweld â’r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth ar ddydd Mercher 17 Gorffennaf i lunio’r rhestr fer cyn y beirniadu terfynol yn ddiweddarach.
Bydd gwobrau 1, 2 a 3 a Chymeradwyaeth Uchel a bydd pawb ar y rhestr fer yn derbyn Llythyr Teilyngdod.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r gystadleuaeth neu’r ymgyrch ‘Wrecsam yn ei Blodau’, anfonwch e-bost at: WrexhaminBloom@wrexham.gov.uk
Dywedodd y Cyng. Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, Mae ‘Cymru yn ei Blodau’ yn annog pob rhan o’r gymuned i gymryd rhan a gwella’r amgylchedd y maent yn byw ac yn gweithio ynddo i wneud Cymru yn lle harddach i dwristiaid ymweld ag ef, yn ogystal ag annog trigolion i wneud y gorau o’u cymdogaethau.
“Rydw i’n annog busnesau lleol i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon er mwyn helpu i flodeuo’r sir.”