Mae cystadleuaeth Pencampwriaeth Rygbi’r Byd yn Japan wedi bod yn hynod broffidiol i gwmni o Wrecsam gan fod cwrw Wrexham Lager wedi cael ei anfon allan yn arbennig i gefnogwyr Cymru – ac mae’r cwrw’n llifo.
Fe achubwyd ar y cyfle ar ôl i Wrexham Lager fynychu ffair fasnach “Blas o Gymru” yn gynharach eleni gan gwrdd â mewnforwyr o Japan oedd â diddordeb yn y cynnyrch cyn Cwpan Rygbi’r Byd.
Roedd y canlyniad yn anhygoel ac fe werthodd yr allforion cyntaf yn gyflym ac fe anfonwyd ail allforion ar awyren nwyddau. Mae disgwyl y bydd rhagor yn cael ei anfon allan dros yr wythnosau nesaf er mwyn ateb y galw.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Mae Mark Roberts, Rheolwr Gyfarwyddwr Wrexham Lager wrth ei fodd gyda’r diddordeb, a dywedodd: “Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel ac mae ymdopi â’r galw yn mynd i fod yn her ond rydym yn fodlon ymateb i’r her.
“Mae’r cysylltiad gyda Chwpan Rygbi’r Byd yn naturiol wedi ennyn diddordeb ond gobeithio y gallwn ni fanteisio ar hyn ac adeiladu ar y llwyddiant dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod”.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae hyn yn enghraifft ardderchog o gwmni lleol yn manteisio ar beth sy’n digwydd yn y byd er mwyn rhoi sylw i’w cynnyrch, a’i werthu. Da iawn i bawb a dymunwn bob llwyddiant i chi wrth i chi fynd o nerth i nerth.”
Dyma ychydig o luniau y mae cefnogwyr yn Japan wedi’u hanfon i’r bragdy!
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD