Wrth i’r gwaith o ailwampio Marchnadoedd Wrecsam dynnu tua’r terfyn, rydym yn falch o gyhoeddi galwad agored i fasnachwyr newydd ymuno â’n cymuned farchnad ddeinamig.
Os ydych yn fusnes sydd wedi’i hen sefydlu neu’n megis dechrau, mae Marchnadoedd Wrecsam yn gobeithio bod yn ganolbwynt ble mae traddodiad yn cwrdd â chyfleoedd newydd. Rydym yn chwilio am fasnachwyr sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth, o grefftau â llaw a bwydydd arbennig i nwyddau a gwasanaethau arloesol.
Ymunwch â ni i greu marchnad fywiog a llwyddiannus sy’n cefnogi busnesau lleol, yn denu pobl leol ac ymwelwyr ac yn dathlu treftadaeth Wrecsam.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi, “Dyma amser gwych i gymryd y cyfle i ddod yn un o’n sector sy’n tyfu o fasnachwyr annibynnol yng nghanol y ddinas.
“Mae canol y ddinas a’r strydoedd cyfagos yn elwa o fuddsoddiad o filiynau o bunnoedd i adfywio’r ardal a dyma eich cyfle chi i ymuno â ni i greu marchnad fywiog a llwyddiannus sy’n cefnogi busnesau lleol, yn denu pobl leol ac ymwelwyr ac yn dathlu treftadaeth Wrecsam.”
Ychwanegodd yr Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am Tŷ Pawb, y Cynghorydd Hugh Jones “Pa un a ydych yn fusnes sydd wedi’i hen sefydlu neu’n megis dechrau, mae Marchnadoedd Wrecsam – sy’n cynnwys y Cigydd, y Farchnad Gyffredinol, Tŷ Pawb a marchnadoedd awyr agored yn gobeithio bod yn ganolbwynt ble mae traddodiad yn cwrdd â chyfleoedd newydd.”
Sut i wneud cais am Stondin yn y Farchnad
I wneud cais am stondin neu i holi, ewch ar wefan Cyngor Wrecsam
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Gwelliannau Amgylcheddol Canol Dinas Wrecsam
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch