Mae’r prosiect i ailddatblygu Amgueddfa Wrecsam yn ‘Amgueddfa Dau Hanner’ wedi derbyn grant gan elusen fawr yn y DU.
Bydd prosiect ‘Yr Amgueddfa Ddwy Hanner’ yn gweld adeilad presennol Amgueddfa Wrecsam yn cael ei ailddatblygu’n amgueddfa newydd sbon i Wrecsam, ochr yn ochr ag Amgueddfa Bêl-droed i Gymru.
Mae grant o £150,000 wedi’i ddyfarnu i gefnogi’r prosiect gan Sefydliad Wolfson (link), elusen annibynnol sy’n canolbwyntio ar ymchwil ac addysg. Ei nod yw cefnogi cymdeithas sifil trwy fuddsoddi mewn prosiectau rhagorol ym meysydd gwyddoniaeth, iechyd, treftadaeth, y dyniaethau a’r celfyddydau.
Ers ei sefydlu ym 1955, mae tua £1 biliwn (£2 biliwn mewn termau real) wedi’i ddyfarnu i fwy na 12,000 o brosiectau ledled y DU, i gyd ar sail adolygiad arbenigol.
Dywedodd Paul Ramsbottom, prif weithredwr Sefydliad Wolfson: “Rydym yn falch iawn o gefnogi ailddatblygu Amgueddfa Wrecsam. Rydym wedi ymrwymo’n gryf i gefnogi treftadaeth ddiwylliannol ledled Cymru, a hon fydd nid yn unig yr amgueddfa gyntaf ar gyfer pêl-droed Cymru, ond bydd hefyd yn rhoi cyfle i ymwelwyr ddysgu mwy am dreftadaeth Wrecsam a gogledd-ddwyrain Cymru.”
Mwy o gynnydd ar gyfer prosiect amgueddfa
Mae Amgueddfa Wrecsam bellach ar gau i’r cyhoedd er mwyn gallu dechrau ar y gwaith o baratoi’r adeilad ar gyfer ei drawsnewid yn Amgueddfa Dau Hanner newydd.
Bydd yr amgueddfa bêl-droed newydd yn dathlu pêl-droed Cymru, ddoe a heddiw, yn ei holl amrywiaeth, o glybiau llawr gwlad i’r timau cenedlaethol, yn ogystal ag amlygu llwyddiannau hanesyddol Wrecsam yn y gamp a dathlu treftadaeth bêl-droed gyfoethog y Fwrdeistref Sirol.
Bydd orielau newydd yn cael eu creu i arddangos casgliadau Amgueddfa Wrecsam, sy’n golygu gwell profiad i ymwelwyr a lleoliad modern o’r radd flaenaf ar gyfer darganfod stori hynod ddiddorol a chyffrous ein rhanbarth yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Mae disgwyl i’r amgueddfa newydd agor yn 2026.
Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gydag arian gan Gyngor Wrecsam a Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Sefydliad Wolfson. Mae prosiect yr Amgueddfa Dau Hanner wedi derbyn £1.3m gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.”
Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Bartneriaethau a Diogelwch Cymunedol, y Cynghorydd Paul Roberts: “Mae’r dyfarniad cyllid newydd gan Sefydliad Wolfson yn cynrychioli cynnydd mwy rhagorol ar gyfer y prosiect hynod gyffrous hwn.
“Bydd Amgueddfa Wrecsam ac Amgueddfa Bêl-droed Cymru newydd yn atyniad cenedlaethol newydd o bwys, yma yng nghanol y ddinas, gan ddenu ymwelwyr newydd i Wrecsam o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Ein diolch i Sefydliad Wolfson am ddyfarnu’r grant, ac i dîm y prosiect am y gwaith aruthrol y maent wedi’i wneud i ddod â’r prosiect i’r cam hwn.”