Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gadewch i ni wneud amser i siarad am iechyd meddwl
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Gadewch i ni wneud amser i siarad am iechyd meddwl
Arall

Gadewch i ni wneud amser i siarad am iechyd meddwl

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 31, 2024 12:18 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Time to talk - image shows a man and woman sitting down at a table having a conversation.
RHANNU

Dewch draw i’r Hwb Lles (LL13 8BG) ddydd Iau, 8 Chwefror rhwng 11am a 2pm…

Dydi siarad am iechyd meddwl erioed wedi bod yn bwysicach, a gall un sgwrs fach wneud byd o wahaniaeth.

Mae gan sgwrs y pŵer i newid bywydau… er gwell.

Dyma pam mae Cyngor Wrecsam yn trefnu digwyddiad Amser i Siarad yn yr Hwb Lles (Stryt Caer, Wrecsam) ddydd Iau, 8 Chwefror rhwng 11am a 2pm.

(Gwyddom mai ar 1 Chwefror mae’r Diwrnod Amser i Siarad swyddogol, ond am resymau ymarferol, rydym yn cynnal ein digwyddiad ar 8 Chwefror).

Bydd yno nifer o stondinau’n cynnig cyngor a gwybodaeth gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam, Andy’s Man Club, Papyrus, Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru, Llinell Gymorth y GIG a mwy.

Hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n dda, fyddwch chi ddim gwaeth â dysgu mwy am sut i ofalu am eich iechyd meddwl eich hun, a sut i helpu eraill.

Meddai’r Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am iechyd meddwl: “Bodau dynol ydyn ni i gyd, ac rydyn ni weithiau’n cuddio ein gwir deimladau. Ond hanner y baich yw ei rannu, a gall sgwrs gyda ffrind, perthynas neu gydweithiwr y gallwch chi ymddiried ynddo wneud byd o wahaniaeth.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am AD: “Mae yna hefyd nifer o asiantaethau all gynnig cymorth a chyngor mwy arbenigol, a helpu pobl drwy gyfnodau anodd iawn pan fyddan nhw’n teimlo’n isel.

“Os gallwch chi, galwch draw i’n gweld ni yn yr Hwb Lles ar 8 Chwefror i ddysgu mwy am sut i ofalu am eich iechyd meddwl, a sut i helpu ffrindiau, teulu a chydweithwyr.”

Mynd ati i sgwrsio

Yn ôl yr elusen iechyd meddwl, Mind, does yna ddim ffordd gywir nac anghywir o sgwrsio â rhywun am eu teimladau, ond mae’n cynnig ambell i awgrym buddiol ar ei gwefan…

Gofynnwch a gwrandewch

Gall gofyn cwestiynau roi cyfle i berson fynegi eu teimladau a’r hyn maen nhw’n ei ddioddef. A gall eich helpu chithau i ddeall eu profiad yn well.

Ceisiwch ofyn cwestiynau sy’n agored yn hytrach na’n arweiniol neu’n feirniadol. Er enghraifft, “sut mae hynny’n effeithio arnat ti?” neu “sut mae’n teimlo?”

Meddyliwch lle a phryd i gael sgwrs

Weithiau mae’n haws siarad pan fyddwch chi ochr yn ochr yn hytrach nag wyneb yn wyneb. Os byddwch chi’n cael sgwrs yn y cnawd, efallai yr hoffech chi sgwrsio wrth wneud rhywbeth arall.

Fe allech chi gychwyn sgwrs wrth fynd am dro, wrth goginio neu pan fyddwch chi’n eistedd mewn traffig.

Ond peidiwch â phoeni cymaint am ganfod y sefyllfa berffaith nes bod y sgwrs ei hun yn mynd yn angof!

Peidiwch â chwilio am ateb

Mae’n gallu bod yn anodd gweld rhywun annwyl i chi’n cael amser caled. Ceisiwch beidio â chynnig atebion tymor byr i’w problemau.

Gall dysgu rheoli neu ddod dros broblem iechyd meddwl fod yn daith hir.

Mae’n debyg y byddan nhw eisoes wedi ystyried nifer o wahanol ddulliau a strategaethau. Gall siarad fod yn bwerus iawn, felly os nad ydyn nhw’n gofyn i chi am gyngor yn uniongyrchol, efallai mai’r peth gorau i chi ei wneud ydi gwrando.

Peidiwch â’u trin yn wahanol

Pan fydd gan rywun broblem iechyd meddwl, cofiwch mai’r un person ydyn nhw o hyd.

Pan fydd ffrind neu anwylyd yn siarad gyda chi am eu hiechyd meddwl, dydyn nhw ddim am i chi eu trin nhw’n wahanol mewn unrhyw ffordd. Os ydych chi eisiau eu helpu, cadwch bethau’n syml. Gwnewch y pethau y byddech chi’n eu gwneud fel arfer.

Byddwch yn amyneddgar

Waeth pa mor galed y byddwch chi’n trio, efallai nad yw rhai pobl yn barod i siarad am eu profiadau.
Mae hynny’n iawn – efallai y bydd y ffaith i chi roi cynnig arni yn ei gwneud yn haws iddyn nhw siarad â chi rhywdro eto.

Rhannu
Erthygl flaenorol Transforming Towns Grant cyllid newydd i brosiect ailddatblygu Amgueddfa Wrecsam
Erthygl nesaf Bydd seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 27 Ebrill 2024 Bydd seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 27 Ebrill 2024

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026
Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026
Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Mayor of Wrexham receiving a PSA screening test
ArallPobl a lle

Maer yn cefnogi digwyddiad sgrinio canser y prostad

Gorffennaf 28, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Gorffennaf 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English