Bydd Wrecsam yn dathlu’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, a gynhelir yng nghanol dinas Wrecsam, ddydd Mercher 7 Awst rhwng 12:00 a 4:00, ar Sgwâr y Frenhines a Llwyn Isaf (cae Neuadd y Dref).
Gwahoddir pobl o bob oedran
Gan gynnwys babanod a phlant bach, plant hŷn a phobl ifanc, rhieni, gweithwyr proffesiynol a neiniau a theidiau, i ymuno yn y digwyddiad hwyliog rhad ac am ddim hwn. Bydd sefydliadau o bob rhan o Wrecsam, sy’n ymwneud â chwarae a gwaith chwarae, yn dod ynghyd i ddarparu ystod eang o gyfleoedd chwarae, gan gynnwys hen ffefrynnau megis pwll tywod enfawr a chwarae â sothach.
Meddai’r Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Nod ein diwrnod chwarae blynyddol yn Wrecsam ydi tynnu sylw at hawl plant i chwarae ac annog pobl i gydnabod gwerth chwarae i blant, eu teuluoedd a’u cymunedau lleol. Mae’r digwyddiad yn rhan o ymrwymiad parhaus yr awdurdod lleol i geisio sicrhau bod pob plentyn ar draws y fwrdeistref sirol yn cael digon o amser, lle a chaniatâd i chwarae.”
Y cyfan rydym ni’n ei ofyn i chi yw dod yn barod i gael hwyl gyda dillad y gallwch eu gwlychu a’u baeddu. Yn y gorffennol mae teuluoedd wedi dod â phicnic er mwyn aros drwy’r prynhawn!
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Manylion Sesiynau Nofio Am Ddim yr haf hwn