Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wrecsam i groesawu cynhadledd Trefi Smart cyntaf Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Wrecsam i groesawu cynhadledd Trefi Smart cyntaf Cymru
Pobl a lleBusnes ac addysg

Wrecsam i groesawu cynhadledd Trefi Smart cyntaf Cymru

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 6, 2024 4:27 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Smart towns
RHANNU

Mae Tŷ Pawb i gynnal y gynhadledd Trefi ‘Smart’ gyntaf erioed yng Nghymru.

Mae’r digwyddiad, sy’n cael ei gynnal ar 15 Mawrth, yn nodi carreg filltir arwyddocaol ar daith Cymru tuag at fanteisio ar dechnoleg a datrysiadau sy’n seiliedig ar ddata i adfywio ei threfi a’i chymunedau, ac mae wedi’i drefnu gan Trefi Smart Towns Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a BT.

Ers ei sefydlu yn 2021, mae’r fenter, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i weithredu gan Menter Môn, wedi hyrwyddo’r defnydd o dechnoleg a data i ailfywiogi’r stryd fawr mewn trefi ledled y wlad.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: “Mae’r rhaglen Trefi Smart yn annog ac yn cefnogi awdurdodau lleol, busnesau a sefydliadau cymunedol i ddefnyddio pŵer technoleg a data i wella ffyniant a’r ffordd mae  trefi a chanol dinasoedd yn cael eu rhedeg, fel rhan o’n fframwaith Trawsnewid Trefi.

“Mae Wrecsam yn enghraifft wych o sut y gall awdurdodau lleol ddefnyddio’r rhaglen i fuddsoddi mewn technolegau digidol a datblygu seilwaith er budd y bobl sy’n byw, gweithio ac yn ymweld â’n trefi a’n dinasoedd.

“Rydym wedi ymestyn y rhaglen ac yn buddsoddi mwy na £600k dros ddwy flynedd i helpu i gefnogi busnesau, cynghorau a chymunedau i adfywio canol trefi a dinasoedd.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae ein partneriaid canol tref yn defnyddio’r cyllid hwn i ddatblygu a gwella ffyniant eu trefi yn y dyfodol.”

Mae’r gynhadledd yn addo cyfle i rannu syniadau newydd gyda araith gan  brif siaradwyr, arddangosfa, a thrafodaethau gan hyrwyddwyr digidol ac arweinwyr diwydiant. Bydd mynychwyr yn cael cipolwg ar y prosiectau arloesol sy’n siapio tirwedd drefol Cymru ac yn darganfod sut gall technoleg sicrhau newid cadarnhaol ar lefel leol.

Mae’r gynhadledd hefyd yn rhoi cyfle i Wrecsam arddangos ei seilwaith digidol a sefydlu ei hun fel dinas smart cyntaf gogledd Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi Cyngor Wrecsam: “Rydym wrth ein bodd bod Menter Môn a BT wedi dewis cynnal y digwyddiad gwych hwn yn Wrecsam, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu cynghorau, arbenigwyr technoleg a swyddogion y Llywodraeth eraill ar y 15 o Fawrth.

“Mae Wrecsam wedi cael ei ddewis i ddangos y cynnydd yn ystod ein datblygiad i fod yn Ddinas Smart. Yn ystod y flwyddyn a hanner diwethaf, mae wedi sefydlu’r seilwaith i gefnogi amrywiaeth eang o synwyryddion i ddeall ymddygiad yng nghanol y ddinas, yn ogystal â defnydd o dechnoleg ddigidol i hyrwyddo digwyddiadau a busnes yn y ddinas.

“Mae cynnal y digwyddiad yn Wrecsam yn gyfle gwych i arddango­s yr hyn sy’n bosib pan fydd awdurdodau lleol yn dechrau datblygu ecosystemau IoT (y rhyngrwyd pethau) – gan ddefnyddio data a thechnoleg i helpu rheoli canol dinasoedd yn effeithiol.”­

Bydd mynychwyr y digwyddiad yn clywed gan bobl ddylanwadol gan gynnwys Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru, a Lisa Perkins, Cyfarwyddwr Parc Adastral BT, a fydd yn gosod y dôn am ddiwrnod o gydweithio. Bydd trafodaeth banel hefyd a chyfle i ddilyn taith Smart Wrecsam o’r cychwyn i’w gweithredu.

Mae modd cofrestru ar Eventbrite.

Mae angen ID ffotograffig arnoch i bleidleisio mewn rhai etholiadau. Dim ID? Gallwachwneud cais am ID pleidleisiwr am ddim ar-lien. Dysgwch fwy drwy fynd i yma.

Rhannu
Erthygl flaenorol ATGOF - Bod yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched yn Tŷ Pawb ar 8 Mawrth ATGOF – Bod yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched yn Tŷ Pawb ar 8 Mawrth
Erthygl nesaf Football Heritage Teithiau Treftadaeth Pêl-droed Wrecsam – Archebwch nawr!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English