Mae nifer cynyddol o goed ynn ar draws Cymru’n dioddef o’r clefyd ac mae rhai o’n coed ni yma yn Wrecsam yn dangos arwyddion cynnar o’r haint.
Fe’i hachosir gan ffwng sy’n cael ei ledaenu gan sborau sy’n disgyn ar ddail, ac sydd yn ei dro yn heintio canghennau a choesynnau’r coed ynn, gan achosi iddynt farw yn y pendraw.
Mae clefyd (Chalara) coed ynn yn broblem ar draws Ewrop ac mae’r sefyllfaoedd mwyaf difrifol yn awgrymu bod hyd at 90% o goed ynn yn debygol o farw o’i herwydd. Mae’n bosibl y bydd yn broblem fawr i dirfeddianwyr a chynghorau ar draws y DU gyda choed ynn ar eu tir, oherwydd mae’r coed hynny’n agos i bobl, eiddo, llinellau pŵer a ffyrdd, a bydd angen eu trin cyn iddynt ddod yn berygl.
Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, y Cynghorydd A Bithell: “Nid ydym yn sicr eto pa mor sydyn bydd coed gyda’r clefyd yn marw, a byddwn yn eu trin yn yr un modd yr ydym yn trin coed heintus eraill, yn seiliedig ar risg a blaenoriaeth. Yn amlwg, mae graddfa’r haint, a fydd yn effeithio 90% o boblogaeth ein coed ynn o bosib, yn golygu y byddwn yn mynd i’r afael â nifer fawr o goed a bydd effaith ar yr amgylchedd ac adnoddau. Mae gennym gofnod ardderchog o ddisodli coed sydd wedi disgyn oherwydd clefydau ac rydym yn parhau i wneud hyn pan fo’r angen gyda choed priodol i’w disodli.”
Mae’r onnen yn cyfri am 5% o boblogaeth goed ddinesig yn y fwrdeistref sirol ac mae’n gyffredin mewn perthi a choetiroedd cefn gwlad. Cofnodwyd clefyd coed ynn am y tro cyntaf yng Nghymru yn 2013, ond mae wedi lledaenu ar hyd y wlad erbyn hyn.
“Sut allaf i helpu?”
Mewn ardaloedd megis parciau a gerddi, gallwch helpu i arafu lledaeniad y clefyd drwy dynnu a gwaredu planhigion ynn sydd wedi’u heintio a chasglu, llosgi (lle ceir caniatâd), claddu neu gompostio dail sydd wedi cwympo. Bydd hyn torri cylch bywyd y ffwng.
Cofiwch, mae modd i chi atal lledaeniad plâu coed a heintiau drwy gymryd rhagofalon syml:
- Sicrhewch fod eich esgidiau a’ch bŵts yn lân cyn mynd ymweld â chefn gwlad.
- Sicrhewch fod unrhyw gerbydau’n cael eu golchi’n rheolaidd i atal unrhyw gasgliad o fwd, yn enwedig o amgylch yr olwynion a bwâu’r olwynion.
- Cadwch at lwybrau caled lle bo’n ymarferol.
- Talwch sylw i unrhyw arwyddion neu gyfarwyddyd.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, cliciwch yma
DWI ISIO MYNEGI FY MARN! DOES DIM OTS GEN