Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wynebu heriau clefyd coed ynn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Wynebu heriau clefyd coed ynn
ArallY cyngor

Wynebu heriau clefyd coed ynn

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 5, 2019 9:17 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Wrexham Ash Tree Disease
RHANNU

Mae nifer cynyddol o goed ynn ar draws Cymru’n dioddef o’r clefyd ac mae rhai o’n coed ni yma yn Wrecsam yn dangos arwyddion cynnar o’r haint.

Fe’i hachosir gan ffwng sy’n cael ei ledaenu gan sborau sy’n disgyn ar ddail, ac sydd yn ei dro yn heintio canghennau a choesynnau’r coed ynn, gan achosi iddynt farw yn y pendraw.

CYMRWCH RAN YN YR YMGYNGHORIAD AR GYNLLUN Y CYNGOR 20-22

Mae clefyd (Chalara) coed ynn yn broblem ar draws Ewrop ac mae’r sefyllfaoedd mwyaf difrifol yn awgrymu bod hyd at 90% o goed ynn yn debygol o farw o’i herwydd. Mae’n bosibl y bydd yn broblem fawr i dirfeddianwyr a chynghorau ar draws y DU gyda choed ynn ar eu tir, oherwydd mae’r coed hynny’n agos i bobl, eiddo, llinellau pŵer a ffyrdd, a bydd angen eu trin cyn iddynt ddod yn berygl.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, y Cynghorydd A Bithell: “Nid ydym yn sicr eto pa mor sydyn bydd coed gyda’r clefyd yn marw, a byddwn yn eu trin yn yr un modd yr ydym yn trin coed heintus eraill, yn seiliedig ar risg a blaenoriaeth. Yn amlwg, mae graddfa’r haint, a fydd yn effeithio 90% o boblogaeth ein coed ynn o bosib, yn golygu y byddwn yn mynd i’r afael â nifer fawr o goed a bydd effaith ar yr amgylchedd ac adnoddau. Mae gennym gofnod ardderchog o ddisodli coed sydd wedi disgyn oherwydd clefydau ac rydym yn parhau i wneud hyn pan fo’r angen gyda choed priodol i’w disodli.”

Mae’r onnen yn cyfri am 5% o boblogaeth goed ddinesig yn y fwrdeistref sirol ac mae’n gyffredin mewn perthi a choetiroedd cefn gwlad. Cofnodwyd clefyd coed ynn am y tro cyntaf yng Nghymru yn 2013, ond mae wedi lledaenu ar hyd y wlad erbyn hyn.

“Sut allaf i helpu?”

Mewn ardaloedd megis parciau a gerddi, gallwch helpu i arafu lledaeniad y clefyd drwy dynnu a gwaredu planhigion ynn sydd wedi’u heintio a chasglu, llosgi (lle ceir caniatâd), claddu neu gompostio dail sydd wedi cwympo. Bydd hyn torri cylch bywyd y ffwng.

Cofiwch, mae modd i chi atal lledaeniad plâu coed a heintiau drwy gymryd rhagofalon syml:

  • Sicrhewch fod eich esgidiau a’ch bŵts yn lân cyn mynd ymweld â chefn gwlad.
  • Sicrhewch fod unrhyw gerbydau’n cael eu golchi’n rheolaidd i atal unrhyw gasgliad o fwd, yn enwedig o amgylch yr olwynion a bwâu’r olwynion.
  • Cadwch at lwybrau caled lle bo’n ymarferol.
  • Talwch sylw i unrhyw arwyddion neu gyfarwyddyd.

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, cliciwch yma

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/project/417?language=cy”]DWI ISIO MYNEGI FY MARN![/button] [/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]DOES DIM OTS GEN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae dathliad o chwarae yn dod i Tŷ Pawb yr haf hwn Mae dathliad o chwarae yn dod i Tŷ Pawb yr haf hwn
Erthygl nesaf Ailwampio eiddo gwag Ailwampio eiddo gwag

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English