Mae’r celfyddydau’n dod yn bwnc sy’n denu mwy a mwy o sylw  ac yn ennyn diddordeb cyhoeddus cynyddol yn Wrecsam – yn enwedig yn sgil  y cyhoeddiad diweddar mai Tŷ Pawb fydd yr enw ar ddatblygiad celfyddydau a marchnadoedd  newydd y dref.

Fel y profodd arddangosfa galeri ddiweddar ym Mhrifysgol Glyndŵr a  roddodd lwyfan i waith criw o  bobl ifanc a fu’n rhan o weithdy hyfforddiant celf gyda llu o artistiaid proffesiynol dros yr haf, mae gan Wrecsam gronfa fawr o dalent.

Cynhyrchwyd y gwaith gan 17 o artistiaid a myfyrwyr ifanc yn ystod eu cyfnod yn ysgol gelf ‘Portffolio’, prosiect sy’n cael ei redeg gan Oriel Wrecsam gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Loteri Genedlaethol.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Roedd yr artistiaid ifanc i gyd rhwng 14 a 18 oed ac yn astudio ar gyfer TGAU neu Lefel ‘A’ mewn Celf a Dylunio.

Cynhaliwyd y prosiect drwy gydol mis Gorffennaf a mis Awst, gyda’r bobl ifanc oedd yn rhan ohono yn cael cyfle i roi cynnig ar sawl gwahanol fath o gelf – gan gynnwys argraffu ‘cyanotype’, cerflunio a dylunio amlgyfrwng.

Yr artistiaid a arweiniodd y gweithdai drwy gydol y cwrs oedd Mike Ryder, Paul Jones, John Merrill a Ben Rider.

Bydd y gweithdai’n parhau’r flwyddyn nesaf, gydag ysgol gelf yn cael ei chynnal yn Nhŷ Pawb ac Ysgol Gelf a Dylunio Prifysgol Glyndŵr yn ystod yr haf

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol y Cyngor dros Gymunedau, Partneriaethau, Diogelu’r Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Hoffwn longyfarch yr holl bobl ifanc a gymerodd ran ym mhrosiect celf yr haf ‘Portffolio’ ac rwy’n hynod o falch  fod eu gwaith wedi cael ei arddangos.

“Mae eu hymdrechion yn glodwiw ac mae’n galonogol gweld cymaint o ymroddiad a thalent artistig ymysg pobl ifanc Wrecsam.

Rydym yn gobeithio y bydd y gymuned celf a chrefft leol yn manteisio ar y cyfleoedd newydd fydd ar gael iddyn nhw arddangos eu gwaith a’u cynnyrch pan fydd Tŷ Pawb yn agor flwyddyn nesaf.”

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.

COFRESTRWCH FI