Mae Wythnos Addysg Oedolion yn cael ei chynnal rhwng 9 ac 15 Medi 2024.
Mae’r ymgyrch hon yn dathlu dysgu gydol oes gan geisio ysbrydoli mwy o bobl i ennill neu wella eu sgiliau ar gyfer bywyd a gwaith.
Dydi dysgu ddim ar gyfer pobl ifanc yn unig – mae’r wythnos hon yn amlygu pwysigrwydd dysgu parhaus pan fyddwn yn oedolion, sy’n gallu ein helpu ni i wneud y canlynol:
- Gwella ein hiechyd a’n lles
- Datblygu sgiliau ar gyfer gwaith / dringo’r ysgol yrfa
- Creu cysylltiadau cymdeithasol gwell
Oes yna gyrsiau am ddim yn Wrecsam?
Oes! Ochr yn ochr â Chyngor Sir y Fflint, rydym ni wedi ffurfio partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd Ddwyrain Cymru. Drwy’r bartneriaeth hon rydym ni’n cynnig cyfleoedd dysgu o ansawdd i bobl yn y gymuned, i unrhyw un 19 oed a hŷn.
Ceir dolen i bori drwy’r cyrsiau isod ond fe allwch chi hefyd fynd i wefan Dysgu Oedolion yn y Gymuned am fwy o wybodaeth gefndir.
Cyrsiau enghreifftiol
Mae’r dosbarthiadau diweddar wedi cynnwys:
- Coginio prydau o fewn cyllideb
- Crosio
- Sgiliau TG sylfaenol
- Defnyddio ffonau clyfar
Chwilio ac archebu cyrsiau
Mae modd canfod manylion cyrsiau sydd i ddod ar Facebook (nid oes angen cyfrif arnoch i weld y dudalen):
Facebook: Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd Ddwyrain Cymru
Er bod Wythnos Addysg Oedolion yn cael ei chynnal ym mis Medi, mae yna gyfleoedd dysgu drwy gydol y flwyddyn.
Felly os nad oes gennych chi amser i ymuno â dosbarth rŵan neu os nad oes unrhyw beth yn mynd â’ch bryd, cofiwch ddilyn/creu nod llyfr o’r dudalen hon a chadw llygad ar sesiynau i ddod!
Fe allwch chi hefyd gysylltu â’n tîm ar acl@wrexham.gov.uk am fwy o wybodaeth neu i ofyn unrhyw gwestiwn.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Hoffech chi wella eich sgiliau cyfrifiadur?