Gyda nifer cynyddol o ymwelwyr yng nghanol y ddinas, rydym ni wrthi’n hyfforddi swyddogion diogelwch er mwyn bod yn weledol a rhoi sicrwydd i ymwelwyr ac i orfodi’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus presennol.
Ymysg rhai o amodau’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus mae:
- Gwahardd unigolion rhag yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus yng nghanol y ddinas, neu fod â chynhwysydd agored o alcohol yn eu meddiant.
- Gofyn i unigolion ildio neu gael gwared ar unrhyw beth ym meddiant yr unigolyn y mae lle i gredu sydd yn alcohol neu’n gynhwysydd ar gyfer alcohol.
- Gwahardd unigolion rhag ymddwyn mewn modd sydd yn debygol o achosi aflonyddwch, ofn, niwsans neu bryder i bobl eraill.
“Amser prysur yn Wrecsam”
Meddai’r Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Partneriaethau a Diogelwch Cymunedol: “Mae hi’n mynd i fod yn amser prysur yn Wrecsam wrth i ni barhau i gael niferoedd uwch o ymwelwyr ac mae hi’n bwysig bod pawb yn teimlo’n ddiogel wrth iddynt grwydro canol y ddinas.
“Fe fydd y patrolau cynyddol yma’n cyd-fynd ag adnoddau presennol Heddlu Wrecsam sydd yn patrolio canol y ddinas yn rheolaidd.
Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi, “Ar ôl gwrando ar adborth gan fusnesau canol y ddinas, rydw i’n falch ein bod yn cyflwyno patrolau gwelededd uchel fel y rhain. Rydym ni yma i gefnogi pawb a sicrhau eu bod nhw’n mwynhau eu profiad yng nghanol y ddinas.”
Dywedodd Arolygydd Canol y Ddinas, Heidi Stokes, “Nid yw’r ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y ddinas yn cael ei groesawu. Mae’r patrolau cynyddol gan CBSW i orfodi Gorchymyn Amddiffyn Mannau Cyhoeddus y Cyngor sydd eisoes ar waith yn gam gwych tuag at fynd i’r afael â’r mater.
“Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i gefnogi ein cydweithwyr yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam er mwyn sicrhau bod canol y ddinas yn lle croesawgar a diogel i fyw, i weithio ac i ymweld ag o.
Daeth y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus i rym ar 7 Medi.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Sioe gerddorol fawreddog “Tattoo Cymru” yn dod i Neuadd William Aston ym mis Tachwedd