Rydym yn cefnogi Wythnos Addysg Oedolion ac annog pawb i “ddal ati i ddysgu.”
Mae’r wythnos wedi’i threfnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac mae’n annog pobl i ddarganfod eu hangerdd a dysgu sgiliau newydd.
Mae nifer o feysydd diddorol i ddewis ohonynt, fel sgiliau digidol, celf a chrefft ac iechyd a lles. Mae cyrsiau rhifedd a llythrennedd, sgiliau bywyd, yr amgylchedd, ieithoedd, gwyddorau cymdeithasol a llawer mwy.
Yn ystod yr wythnos a thrwy gydol mis Hydref, bydd cyfle i gymryd rhan mewn cyrsiau ar-lein a phersonol, digwyddiadau a sesiynau blasu.
Yma yn Wrecsam, mae gennym bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned lwyddiannus iawn gyda Sir y Fflint.
Mae’r Bartneriaeth yn gweithio â grŵp o brif ddarparwyr er mwyn sicrhau bod yr addysg yn bodloni anghenion ein cymunedau, gan gynnwys:
- Hamdden a Llyfrgelloedd Aura
- Partneriaeth Parc Caia
- Coleg Cambria
- Groundwork Gogledd Cymru
- Tŷ Calon – Ymddiriedolaeth Gymunedol Glannau Dyfrdwy
Os hoffech gael gwybod mwy am y Bartneriaeth a’r amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael, gan gynnwys amserlenni tymor yr hydref, cysylltwch â ni.
Ffôn: 07584 335409, E-bost: acl@wrexham.gov.uk, neu ewch i’w tudalen ar Facebook i gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael.
Mae dolenni ar gael ar wefan Cymru’n Gweithio hefyd i gannoedd o ddigwyddiadau, sesiynau blasu, cyrsiau ac adnoddau rhad ac am ddim ar-lein a phersonol sydd ar gael trwy gydol mis Hydref. Mae llawer o straeon sy’n ysbrydoli am bobl sydd wedi dechrau dysgu fel oedolion, fel Clare Palmer, a ddywedodd
“Rhwng 14 a 41 oed, nid oeddwn i wedi gwneud unrhyw fathemateg na Saesneg. Roeddwn i’n bryderus i ddechrau, ac i ddweud y gwir, roeddwn i’n ofnadwy. Ond es amdani, ac roeddwn i’n gwybod ar ôl rhai wythnosau fy mod wedi gwneud y penderfyniad cywir. Mae fy mhrofiad wedi bod yn wych, byddwn i’n ei argymell i bawb. Rwy’n agosach nawr nag erioed o’r blaen i wireddu fy mreuddwyd o fod yn weithiwr cymdeithasol.” – Clare Palmer
Dywedodd y Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg, “Mae gymaint o gyfleoedd ar gael i bobl ddychwelyd i addysg a dysgu sgiliau newydd a gwella eich rhagolygon o gael gwaith neu newid cyfeiriad yn gyfan gwbl. Pob lwc i bawb sy’n dechrau ar eu taith ym mis Hydref i ddal ati i ddysgu.”
Cymrwch ran yn ein harolwg newid hinsawdd
Cymerwch ran yn ein harolwg