Dim ond wythnos sydd ar ôl tan ddyddiad cau cofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau lleol fis nesaf, felly dylai unrhyw un sydd eisiau pleidleisio ofalu eu bod nhw wedi cofrestru cyn hynny.
Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yw hanner nos ar 14 Ebrill. Gallwch wneud cais ar-lein ar gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Pum munud sydd ei angen.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost
Ddydd Iau, 5 Mai, bydd pobl yn pleidleisio i ddewis pwy sy’n eu cynrychioli nhw ar lefel leol. Eleni, bydd trigolion Wrecsam yn pleidleisio i ddewis cynghorwyr a fydd yn cynrychioli eu hardal leol a’i thrigolion ac yn cyfrannu at ddatblygu polisïau mewn meysydd fel cludiant, gofal cymdeithasol a thai.
Dywedodd Ian Bancroft, Swyddog Canlyniadau Wrecsam, “Wythnos sydd ar ôl felly mae amser yn prysur fynd heibio i sicrhau eich bod yn gallu cymryd rhan yn yr etholiadau lleol.
“Mae’r etholiadau’n gyfle pwysig i leisio eich barn a phenderfynu pwy a fydd yn eich cynrychioli ar faterion sy’n effeithio’n uniongyrchol ar fywyd bob dydd yma yn Wrecsam. Rhaid i drigolion fod ar y gofrestr etholiadol i allu pleidleisio. Felly, os nad ydych chi wedi cofrestru erbyn hanner nos, 14 Ebrill, ni fyddwch yn gallu cymryd rhan.”
Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth Comisiwn Etholiadol Cymru, “Mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru i allu pleidleisio yn yr etholiadau ym mis Mai, ac mae amser yn prinhau. Mae’n gyflym ac yn hawdd – gwaith pum munud ar-lein ar www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
“Os ydych chi wedi troi’n 16 yn ddiweddar neu wedi symud i fyw, mae’n bwysig iawn eich bod chi’n sicrhau eich bod wedi cofrestru yn gywir i bleidleisio.
“Os cawsoch eich cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad diwethaf ac os nad yw’ch manylion wedi newid, nid oes angen i wneud unrhyw beth.”
Mae gan bleidleiswyr amryw opsiynau – gallant bleidleisio mewn canolfan, trwy’r post neu drwy benodi rhywun maent yn ymddiried ynddo i bleidleisio ar eu rhan, sef pleidlais trwy ddirprwy.
Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais trwy’r post yw 5pm ar 19 Ebrill, ac ar gyfer pleidlais trwy ddirprwy, y dyddiad cau yw 5pm ar 26 Ebrill.
Am fwy o wybodaeth am etholiadau yn eu hardal, sut i gofrestru i bleidleisio, neu sut i wneud cais i bleidleisio trwy’r post neu trwy ddirprwy, gall pobl fynd i’r wefan http://www.electoralcommission.org.uk/pleidleisiwr. Bydd y dudalen hon yn parhau i gael ei diweddaru cyn yr etholiad.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH