Thema Wythnos Gofalwyr eleni yw #gwneudgofalu’nweladwy.
Nid yw rhai gofalwyr yn ystyried eu hunain fel gofalwyr ac o ganlyniad i hynny mae’r gofalwyr hyn yn llai tebygol o chwilio am wybodaeth, cyngor neu gymorth.
Cynhelir wythnos gofalwyr yr wythnos hon ac mae’r tîm Comisiynu a Chontractau yng Nghyngor Wrecsam yn cefnogi GOGDdC (Gwasanaeth gofalwyr a gomisiynir gan CBSW) yn eu hymgyrch i godi ymwybyddiaeth drwy wisgo dillad piws a gwyrdd. Yn y llun uchod, gwelwch y tîm Contractau a Chomisiynu.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Mae 97% o’r holl ofal a ddarperir yn y DU yn cael ei ddarparu gan deulu a ffrindiau. Mae’r cymorth mae GOGDdC yn ei ddarparu i ofalwyr yn ein cymunedau yn angenrheidiol, fodd bynnag mae rhai gofalwyr yn dal i fod yn anweladwy neu ddim yn gofyn am gymorth os yw ar gael.
Drwy godi ymwybyddiaeth, y gobaith yw y bydd mwy o ofalwyr yn canfod ac yn cysylltu â’r gwasanaethau sydd ar gael i’w cynorthwyo yn eu rôl gofalu.
Dywedodd y Cyng. Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion, “Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae mwy na 15,000 o bobl – tua 11 y cant o gyfanswm poblogaeth Wrecsam – yn ystyried eu hunain fel gofalwyr heb dâl. Mae hynny’n gyfystyr i tua un mewn deg o holl bobl Wrecsam.
“Yn aml iawn mae bod yn ofalwr yn gallu gwneud i bobl deimlo ar eu pen eu hunain ac yn unig, ac yn rhwystredig, felly mae GOGDdC a’r holl gyngor a chymorth sydd ar gael gan y gwasanaeth yn amhrisiadwy i helpu i bobl deimlo’n rhan o grŵp a dod â’u hunigedd i ben.”
I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael ar gyfer gofalwyr yn Wrecsam, cysylltwch â:
GOGDdC ar 01978 423114 neu anfonwch e-bost at enquiries@newcis.org.uk
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19