Mae’r Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth o ofalu, tynnu sylw at yr heriau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu a chydnabod y cyfraniad maen nhw’n ei wneud i deuluoedd a chymunedau.
Yn Wrecsam, rydym yn falch o nodi Wythnos Gofalwyr 2025 drwy gynnal digwyddiad arbennig i gefnogi a dathlu gofalwyr di-dâl yn ein cymunedau. Bydd y digwyddiad hefyd yn nodi Diwrnod Heneiddio heb Gyfyngiadau i hyrwyddo heneiddio cadarnhaol, iach yn Wrecsam.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher, Mehefin 11 rhwng 10am a 2pm, yn Hwb Llesiant Wrecsam.
Ymhlith y sefydliadau fydd yno bydd; NEWCIS, Taliadau Uniongyrchol, Y Tîm Ymataliad, Cymru Gynnes, Y Tîm Atal Strociau, Atal Disgyn ac Iechyd Esgyrn, Cymorth Eiriolaeth, Mannau Diogel, Cymorth Dementia, Therapi Galwedigaethol, Adferiad, Hawliau Lles a llawer mwy.
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion, “Rydym yn annog pawb i fynychu’r digwyddiad galw heibio, sydd â’r nod o gynnig gwybodaeth hanfodol, cymorth ymarferol a chyfle i gysylltu ag eraill mewn sefyllfaoedd tebyg. Nid dim ond ymwneud yw â byw’n hirach mae’r ymgyrch heneiddio’n dda, mae’n ymwneud hefyd â byw’n well, gydag urddas, cysylltiadau ystyrlon a’r gefnogaeth iawn.”
Mae’r digwyddiad am ddim i’w fynychu ac yn agored i bob aelod o’r cyhoedd. Boed yn ofalwr di-dâl, yn breswylydd hŷn neu’n rhywun sydd am ddysgu mwy am rwydweithiau cymorth lleol, cewch groeso cynnes.
Bydd NEWCIS hefyd yn cynnal sesiynau gwybodaeth galw heibio yn ystod yr Wythnos Gofalwyr yn y lleoliadau canlynol:
Dydd Llun Mehefin 9, 1–3pm , Llyfrgell Cefn Mawr
Dydd Mawrth Mehefin 10, 10am–1pm, Hwb Yr Orsedd, Yr Orsedd Goch
Dydd Mercher Mehefin 11, 10am–2pm Digwyddiad Wythnos Gofalwyr yn yr Hwb Lles, Wrecsam
Dydd Iau Mehefin 12, 10am–12.30pm Canolfan Adnoddau Acton/Gwaunyterfyn
Mae Diwrnod Heneiddio Heb Gyfyngiadau yn ddiwrnod i ni i gyd ddod at ein gilydd a gweithredu i roi terfyn ar oedraniaeth – fel unigolion, gyda ffrindiau a theulu, yn ein cymunedau ac yn ein gweithleoedd. Mae rhagor o wybodaeth yma: Diwrnod Gweithredu ar Oedraniaeth | Canolfan Heneiddio’n Dda
Os ydych chi’n gofalu am rywun, heb dâl, mae yna lawer o gefnogaeth a gwybodaeth i’ch helpu yn eich rôl ofalu. Cewch wybod mwy am y gefnogaeth mae NEWCIS yn ei gynnig yma: Hafan – NEWCIS
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.