Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn cael ei gynnal yn ystod wythnos 21-25 Tachwedd ac mae’n cynnig cyfle i ni gynnal sgwrs genedlaethol ar newid hinsawdd.
Mae’r wythnos yn archwilio’r gweithredoedd sydd eu hangen er mwyn lleihau allyriadau carbon a chreu mwy o wytnwch i effeithiau newid hinsawdd rydym ni eisoes yn eu profi ar draws Cymru.
Yn benodol, mae thema eleni yn canolbwyntio ar gyfraniad pwysig y gall y cyhoedd ei wneud i helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Gallwch fynd i wefan Wythnos Hinsawdd Cymru i ddysgu mwy, a gallwch hefyd ddilyn #WythnosHinsawddCymru2022 i gael y newyddion diweddaraf yn ystod yr wythnos.
“Ychwanegwch eich cefnogaeth”
Dywedodd y Cyng. David A Bithell, Cefnogwr yr Hinsawdd: “Nid problem at y dyfodol yw newid hinsawdd, mae hi’n broblem argyfyngus sydd angen sylw yn gyflym. Gall fod yn hawdd meddwl ‘Dwi’n gwneud digon yn barod’, neu mai rhywun arall sy’n gyfrifol am hynny, ond mae hi’n amlwg y bydd angen ymdrech enfawr gan bawb ohonom, felly ychwanegwch eich cefnogaeth i’r ymgyrch os gwelwch yn dda. Yng Nghyngor Wrecsam, rydym ni’n parhau i wneud cynnydd da gyda’n Cynllun Datgarboneiddio, tra’n bod ni’n gweithio tuag at gyflawni carbon sero erbyn 2030.”
Ydych chi wedi llenwi ein harolwg newid hinsawdd? Mae amser yn brin…
Does dim llawer o amser ar ôl i chi lenwi ein harolwg newid hinsawdd a datgarboneiddio!
Fe fydd yr arolwg ar agor tan 30 Tachwedd a dim ond tua 5-10 munud sydd ei angen i’w lenwi, ac mae yna wobrau arbedion ynni gwych ar gael.
Bydd pobl sy’n llenwi’r arolwg ac yn gadael eu cyfeiriad e-bost yn cael eu cynnwys mewn cystadleuaeth gyda chyfle i ennill un o’r canlynol:
• talebau beic
• popty araf
• ffrïwr aer
• teclyn gwefru solar ar gyfer ffôn symudol
• tocyn blynyddol i Xplore!
Rydym ni’n gofyn i gynifer o breswylwyr â phosibl gymryd rhan, felly rhannwch gyda’ch teulu a ffrindiau os gwelwch yn dda.
Mae ein harolwg newid hinsawdd ar agor, ac mae ‘na wobrau gwych i’w hennill hefyd!
Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar agor
Mae gan Lywodraeth Cymru ymgynghoriad agored yn gofyn am eich barn ar ei strategaeth ddrafft i ymgysylltu gyda’r cyhoedd i weithredu dros newid hinsawdd.
Os hoffech chi gymryd rhan, bydd angen i chi ymateb cyn iddo gau ar 14 Rhagfyr.
Efallai y bydd angen i chi gyfeirio at ddogfennau’r ymgynghoriad wrth i chi ateb y cwestiynau (mae’r rhain ar gael i’w lawrlwytho ar wefan Llywodraeth Cymru).
Nid oes rhaid i chi ateb pob cwestiwn os nad ydych yn dymuno gwneud hynny, a gallwch arbed y ffurflen a’i llenwi yn nes ymlaen drwy ddarparu cyfeiriad e-bost.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI