Mae Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 yn digwydd ar 4-8 Rhagfyr ac mae’n cynnig cyfle i ni gynnal sgwrs genedlaethol ar newid hinsawdd.
Mae’r thema yn un o’r cwestiynau pwysicaf sy’n wynebu ein cymdeithas heddiw…sut ydym yn mynd i’r afael â newid hinsawdd mewn ffordd deg?
Bydd Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 yn cynnwys cynhadledd ar-lein 5 diwrnod yn edrych ar effeithiau newid hinsawdd ar wahanol bobl, grwpiau, sefydliadau a lleoliad, a bydd yn edrych ar sut mae’r manteision sy’n gysylltiedig â pholisïau hinsawdd newydd yn cael eu dosbarthu’n deg ar draws cymdeithas.
Ochr yn ochr â’r gynhadledd, cynhelir cyfres o sgyrsiau hinsawdd ledled Cymru i gynnwys grwpiau cymunedol ac aelodau o’r cyhoedd i edrych ar y cysylltiadau rhwng atebion ar gyfer mynd i’r afael â newid hinsawdd a’r argyfwng costau byw.
Nod y sgyrsiau hyn fydd annog sgyrsiau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol gyda grwpiau cymunedol, unigolion, gweithwyr cyflogedig a hunangyflogedig ledled Cymru am sut gallwn fynd i’r afael â newid hinsawdd mewn ffordd deg.
Gall unrhyw un sy’n mynd i wefan Wythnos Hinsawdd Cymru gofrestru ar-lein i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen a mynychu’r gynhadledd ar-lein.
Mae’r wefan hefyd yn egluro sut i gyflwyno datganiad o ddiddordeb i gynnal sesiwn yn ystod y gynhadledd ar-lein neu i gynnal digwyddiad Sgwrs Hinsawdd yn cynnwys cymunedau ac unigolion mewn sgyrsiau am newid hinsawdd. Gellir cynnal Sgyrsiau Hinsawdd unrhyw bryd rhwng 4 Rhagfyr, 2023 a 31 Ionawr, 2024, gydag arian Llywodraeth Cymru ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Chefnogwr yr Hinsawdd: “Mae Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 yn gyfle i edrych ar greu atebion i’r problemau niferus rydym yn eu hwynebu o ran newid hinsawdd. Rydym bob amser wedi pwysleisio bod angen ymdrech tîm i fynd i’r afael â’r problemau hyn ac mae’n gyfle i fod o amgylch pobl eraill sydd eisiau gwneud gwahaniaeth ystyrlon. Ceisiwch gymryd rhan yn beth bynnag y gallwch.”
Gallwch hefyd ddilyn #WythnosHinsawddCymru2023 i gael y wybodaeth ddiweddaraf trwy gydol yr wythnos.
Cofrestrwch i gael y wybodaeth ddiweddaraf am Wythnos Hinsawdd Cymru