Mae’n bleser gan Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! gyhoeddi cyfres o ddigwyddiadau addysg cymunedol sy’n ennyn diddordeb gyda diolch i gymorth y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Nod y digwyddiadau hyn ydy hyrwyddo undod cymunedol yn Wrecsam drwy gydweithio gyda grwpiau lleol. “Yn sgil ein partneriaeth gyda’r Gronfa Ffyniant Gyffredin rydym wedi llwyddo i ddarparu cyfleoedd gwerth chweil er mwyn ymwneud gydag Xplore! yn ein cymunedau.” dywedodd Clair Griffiths, Cydlynydd Codi Arian ac Allgymorth Cymunedol. “Rydym yn edrych ymlaen yn arw at gynnig digwyddiadau sy’n ymwneud â sero net ac sy’n meithrin gwerthfawrogiad tuag at Sir Wrecsam.
Dyma’r digwyddiadau a’r gweithdai sydd ar y gweill:
- Canolfan Amlddiwylliannol, Clwb Ar ôl Ysgol – Clwb ar ôl ysgol llawn hwyl a chrefftau, lle caiff yr unigolion eu hannog i addurno eu bagiau cario gyda hen ddeunyddiau a deunyddiau sydd wedi’u rhoddi, gyda phwyslais ar sero net. Bydd y clwb ar Ionawr y 9fed, Chwefror y 6ed a Mawrth y 3ydd yn Tŷ Pawb, ac yn dilyn hynny bydd digwyddiad dathlu yn Xplore! ar Ebrill yr 16eg.
- Dewch i Greu gyda Hadau! – Gweithdy ar y cyd â Garddwyr Cymunedol Wrecsam, lle bydd cyfle i westeion ddysgu sut i greu papur hadau ynghyd â dysgu am yr wyddoniaeth sydd ynghlwm â’r sgil cynaliadwy hwn. Bydd y sesiynau ar Ionawr yr 20fed, Ionawr y 27ain a Chwefror y 3ydd yng nghanolfan gymunedol Tesco, Wrecsam.
- Cadlanciau Byddin Wrecsam – Gweithdy ar y cyd â Chadlanciau Byddin Wrecsam i wrthbwyso effaith amgylcheddol eu trafnidiaeth i’r sesiwn. Byddwn yn bwrw golwg ar ffyrdd o wella eu trefniadau trafnidiaeth presennol.
- Wrexham Sounds – Mae cyfle i Westeion sy’n ymddiddori mewn cerddoriaeth ddysgu am yr wyddoniaeth sydd ynghlwm â dirgryniadau cerddorol, gan ddefnyddio offerynnau sydd wedi’u hailgylchu’n unig. Bydd y sesiynau ar Fawrth yr 2il, 9fed a’r 16eg.
- Grŵp Pontio’r Cenedlaethau – Gweithdy lle bydd cyfle i oedolion hŷn a phlant gydweithio i greu celf gan ddefnyddio deunyddiau sydd wedi’u hailgylchu a chanolbwyntio ar ddiwastraff. Dyddiadau i’w cadarnhau.
- KIM Inspire – Gweithdy grŵp ar ynni adnewyddadwy lle caiff y rheiny sy’n cymryd rhan eu hannog i ddatblygu ffyrdd o gyflwyno’r pwnc gerbron disgyblion ysgolion cynradd. Bydd y sesiynau ar Chwefror yr 22ain a’r 29ain ynghyd â Mawrth y 7fed.
Bydd y cyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn fodd i Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! barhau gyda’u nod o hyrwyddo sero net, cynaliadwyedd a’r ymdeimlad o gymuned ledled Wrecsam, gan gynnig cyfleoedd gwerth chweil er mwyn dysgu a darganfod ymarferol. O ganlyniad i dderbyn cyllid ar gyfer y gweithdai hyn, gallwn fwrw iddi i’w cynnig yn rhad ac am ddim.
Caiff y rheiny sy’n cymryd rhan eu hannog i alw heibio i’r sesiynau’n gwbl rhad ac am ddim.
Mae bellach modd ichi gadw lle ar gyfer yr holl ddigwyddiadau sydd wedi’u crybwyll, a byddwn yn annog pobl i fynd ati i gadw lle cyn gynted â phosibl.
I wybod mwy am y digwyddiadau sydd ar y gweill, oedran addas y rheiny sy’n cymryd rhan ar gyfer pob sesiwn neu i gymryd rhan, ewch i www.xplorescience.co.uk neu cysylltwch gyda: porjects@xplorescience.co.uk
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen – Ydych chi wedi bod i Gaffi Cyfle i gael rhywbeth iach i’w fwyta neu ddanteithion melys eto?