Bydd uwch-gynghorwyr yn trafod cynlluniau ar gyfer dyfodol hen safle Bryn Estyn ac Erlas o’i amgylch yn y Flwyddyn Newydd.
Bu i ni ddechrau ystyried dyfodol posib’ y safle yn 2011 drwy lunio strategaeth gofod swyddfa i weld sut roeddem yn defnyddio adeiladau ein swyddfeydd ac a oedd modd eu gwella ai peidio – neu eu gwerthu neu eu dymchwel.
Edrychwyd ar gynlluniau ar gyfer Erlas yn rhan o’r adolygiad hwnnw ac, yn ôl yn 2015, bu i ni gomisiynu arolwg ecolegol ar gyfer y safle er mwyn paratoi i’w werthu neu ei ddymchwel.
Gwnaed llawer o waith i ystyried pa effaith ecolegol y byddai’r naill opsiwn yn ei chael ar y tir – ond nid yw’r arolygon hynny’n gyfredol erbyn hyn a bydd angen arolygon newydd.
Gyda hynny, bydd y Bwrdd Gweithredol yn edrych ar gynigion ar gyfer y safle pan maent yn cyfarfod nesaf ym mis Ionawr.
Bydd y cynigion sydd ger bron y Bwrdd yn cynnwys cynnal arolygon ecolegol er mwyn caniatáu i ni ddymchwel Erlas House.
Bydd ein hadran Gofal Cymdeithasol i Oedolion hefyd yn gweithio gyda grŵp Gardd Furiog Fictoraidd Erlas, sydd ar hyn o bryd yn dal y safle ar brydles i ddarparu cyfleoedd hyfforddi i oedolion sydd ag anableddau dysgu, i weld beth yw eu cynlluniau nhw ar gyfer y dyfodol yn rhan o’n hadolygiad o gyfleoedd gwaith gofal cymdeithasol i oedolion.
Rydym ni hefyd wedi gweithio’n agos gydag Ymgyrch Pallial i sicrhau bod cyn-breswylwyr Bryn Estyn yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer Erlas.
Rydyn ni hefyd wedi bod yn trafod gyda First Choice Housing a Chanolfan Adsefydlu’r Lluoedd Arfog, sydd ill dau yn defnyddio neu’n gweithredu ar y safle i sicrhau eu bod yn gwybod beth yw ein cynlluniau ni.
Caiff y cynigion eu trafod gan y Bwrdd Gweithredol ddydd Mawrth, 8 Ionawr.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR