Yn gynharach eleni roedden ni’n croesawu cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru mai Amgueddfa Wrecsam oedd y dewis a gaiff ei ffafrio fel cartref i amgueddfa bêl-droed cenedlaethol i Gymru.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud ym mis Mai gan Dafydd Elis Thomas AC, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.
Ers hynny rydym ni wedi edrych ar rai o’r newidiadau y gellid bod eu hangen yn Amgueddfa Wrecsam fel y gall fod yn gartref i’r casgliad pêl-droed cenedlaethol.
Byddai angen peth gwaith i greu estyniad i sicrhau y gall yr amgueddfa groesawu llif tybiedig o dros 80,000 o ymwelwyr y flwyddyn.
Gan ystyried hynny, rydym yn edrych ar yr hyn sydd ei angen er mwyn mynd â’r gwaith i’r cam nesaf, gan gyd-fynd â chamau’r gwaith a amlinellwyd gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA).
Rydym yn bwriadu mynd â’r cynlluniau i Gam 3 RIBA, gan olygu y byddwn yn awyddus i benodi tîm dylunio yn cynnwys penseiri a dylunwyr arbenigol a fydd yn gweithio gyda ni a’n partneriaid dros y misoedd nesaf i ddatblygu cynlluniau manwl yn dangos sut bydd yr amgueddfa’n edrych, y tu mewn a’r tu allan.
Bydd adroddiad ar yr hyn sydd angen i ni ei wneud nesaf yn cael ei gyflwyno gan y Cynghorydd Hugh Jones, yr Aelod Arweiniol dros Bartneriaethau Cymunedol, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, i aelodau o’n Bwrdd Gweithredol ddydd Mawrth, Gorffennaf 9.
Os hoffech ddilyn y drafodaeth, gallwch wneud hynny drwy wylio’r gweddarllediad byw yma.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!DOES DIM OTS GEN