Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol – Ein hadolygiad o ofal cymdeithasol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol – Ein hadolygiad o ofal cymdeithasol
Pobl a lleY cyngor

Adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol – Ein hadolygiad o ofal cymdeithasol

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 4, 2019 10:59 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol – Ein hadolygiad o ofal cymdeithasol
RHANNU

Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n gwybod pa mor dda yw ein darpariaeth gofal cymdeithasol.

Pan mae pobl yn meddwl am y Cyngor a beth rydyn ni’n ei wneud, maen nhw’n aml yn meddwl am y pethau amlwg iawn fel gwagu biniau, trwsio tyllau yn y ffordd, ysgolion a llwyth o wasanaethau eraill sy’n rhan o’n bywydau bob dydd, ac sydd i’w gweld mewn gwahanol gymunedau.

Ond mae gwaith ein Gwasanaethau Cymdeithasol yn enghraifft wych o’r pethau llai amlwg. Maen nhw’n wasanaethau sy’n llai amlwg i’r bobl nad ydynt eu hangen – ond sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr i’r rheiny sydd.

CYMRWCH RAN YN YR YMGYNGHORIAD AR GYNLLUN Y CYNGOR 20-22

Mae ein timau gofal cymdeithasol yn gwneud llawer o waith pwysig iawn – maen nhw’n helpu pobl gyda llawer o bethau cymhleth ac anodd. Maen nhw’n helpu pobl gyda heriau mawr mewn bywyd, gan orfod delio gyda demograffeg ac adnoddau sy’n newid o hyd.

Ond maen nhw’n parhau i wneud gwahaniaeth i fywydau ar draws Sir Wrecsam ac maen nhw’n cymryd barn a phrofiadau’r rhai maen nhw’n eu helpu i ystyriaeth.

Gan gofio’r uchod, bob blwyddyn mae’n rhaid i’r Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol lunio adroddiad yn adolygu’r gwasanaethau.

Mae’r adroddiad yn adolygiad blynyddol o bob dim rydyn ni’n ei wneud yn gyffredinol o ran Gwasanaethau Cymdeithasol – i blant ac oedolion.

Mae rhan o’r adroddiad yn edrych ar farn y rhai sy’n derbyn gofal a’u gofalwyr, gan edrych ar nifer o arolygon y bu i ni eu cynnal gyda grwpiau allweddol y llynedd.

Mae’r adroddiad hefyd yn mesur perfformiad ein gwasanaethau yng nghyd-destun y chwe amcan lles sydd wedi’u hamlinellu yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sef:

  1. Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chyd-gynhyrchu canlyniadau lles personol y mae pobl yn dymuno eu cyflawni.
  2. Gweithio gyda phobl a phartneriaid i amddiffyn a hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol pobl a’u lles emosiynol.
  3. Amddiffyn a diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed.
  4. Annog a chefnogi pobl i ddysgu, datblygu a chymryd rhan mewn cymdeithas.
  5. Cefnogi pobl i ddatblygu a chynnal perthnasoedd domestig, teuluol a phersonol iach yn ddiogel.
  6. Gweithio gyda a chefnogi pobl i wella eu lles economaidd, cael bywyd cymdeithasol a byw mewn llety addas sy’n diwallu eu hanghenion.

Yn ogystal â llunio’r adroddiad, mae’r cynghorwyr hefyd wedi gallu trafod y mater i sicrhau eu bod yn gwybod sut mae ein gwasanaethau’n gweithredu, a gallant awgrymu unrhyw newid y maen nhw’n credu sydd ei angen.

Aeth yr adroddiad ger bron pwyllgor craffu yr wythnos ddiwethaf a bydd rŵan yn mynd ger bron y Bwrdd Gweithredol.

Bydd aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Adroddiad y Cyfarwyddwr yn eu cyfarfod nesaf ddydd Mawrth 9 Gorffennaf. Gallwch wylio’r gwe-ddarllediad byw yma.

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/project/417?language=cy”]DWI ISIO MYNEGI FY MARN![/button][button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]DOES DIM OTS GEN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Hoffech chi rentu garej gan y Cyngor? Hoffech chi rentu garej gan y Cyngor?
Erthygl nesaf Football Museum Y camau nesaf o ran cynlluniau’r amgueddfa bêl-droed

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Pobl a lle

Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English